Llongyfarchiadau gwresog i Daniel Evans o Aberlash, Rhydaman
ar ei lwyddiant yn y maes rygbi'n ddiweddar.
Mae Daniel, sy'n gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Aman, yn rhan o sgwad y Sgarlets, Llanelli ac wedi disgleirio'n ddiweddar yn safle'r cefnwr.
Ond dewiswyd ef i ymuno â thîm Cymru wrth iddynt deithio Canada ac America'n ddiweddar.
Chwaraeodd Daniel yn y ddwy gêm brawf, lle bu'r tîm yn fuddugoliaethus.
Da iawn ti Daniel a phob lwc i'r dyfodol.
|