Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Glo Mân
Band Pres Ieuenctid Cwmtawe Band pres yn dathlu'r deg
Mehefin 2008
Mae Band Pres Ieuenctid Cwmtawe yn dathlu deg mlynedd ers ei sefydlu. Pen-blwydd Hapus!

Ffurfiwyd y band ieuenctid gan Wayne Pedrick deg mlynedd yn ôl. Disgyblion o ysgolion yr ardal yw aelodau'r band ac mae'r band yn derbyn cefnogaeth Gwasanaeth Cerddoriaeth Gorllewin Morgannwg a Mr Philip Emmannuel. Mae Wayne yn gweithio i'r gwasanaeth fel athro cerddoriaeth ac yn ymweld â nifer o ysgolion yr ardal.

Daw'r disgyblion o ysgolion cyfun Ystalyfera, Cwmtawe, Bryntawe a Dyffryn Aman. Mae'r band yn ymarfer bob nos Fercher yn Ysgol Gynradd Gymraeg Pontardawe ac yn cystadlu yn rheolaidd mewn cystadlaethau bandiau pres ieuenctid ac yn adran pedwar o'r cystadlaethau i oedolion.

Stadiwm Liberty

Cafwyd llwyddiant ym mis Hydref ym Mhorth Tywyn ac hefyd yng Nglyn Ebwy ym mis Mai eleni. Ar ddydd Sadwrn, l7 Mai enillodd y band y wobr gyntaf mewn cystadleuaeth yn Nhredegar ac yn ychwanegol enillodd Rhodri Morris o Gwmgors y cwpan am y chwaraewr offeryn gorau. Mae hanner cant o aelodau yn y band ar hyn o bryd. Band Ieuenctid Cwmtawe yw'r band swyddogol sy'n chwarae cyn gemau'r Gweilch yn Stadiwm Liberty ac maent yn codi'r hwyl ac yn boblogaidd iawn gan y cefnogwyr yno.

Mae'r band yn ystod y deng mlynedd diwethaf wedi mynd o nerth i nerth ac o ganlyniad bu'n rhaid sefydlu 'band ymarfer' i fwydo'r band mawr. Dechreuodd y band ymarfer tua pedair blynedd yn ôl o dan arweiniad Wayne ac mae tua deugain o blant o 9 i 13 oed yn cyfarfod ac yn ymarfer yn rheolaidd. Mae aelodau'r band yma yn cael eu paratoi ar gyfer ymuno â'r prif fand maes o law.

Y llynedd bu'r band yma yn cystadlu yn rownd derfynol Bandiau Pres Prydain Fawr ym Manceinion. Cafodd y band y pedwerydd safle (allan o ddeg band a oedd yn cystadlu) yn y gystadleuaeth o dan 16 oed. Bu'r band hwn yn llwyddiannus ac ennill y wobr gyntaf yn Nglyn Ebwy llynedd ac hefyd yng nghystadleuaeth Bandiau Pres Gwent ym mis Ionawr eleni. Yn ddiweddar enillodd y band y wobr aur yn y gystadleuaeth i fandiau iau yn Nhredegar. Da iawn yn wir!

Cannoedd

Fel rhan o'r dathliadau penblwydd mae'r band iau wedi ymweld ag Ynys Manaw. Bu'r band yno am bump diwrnod ac uchafbwynt y daith oedd perfformio mewn cyngerdd gyda Band Trefol Douglas. Cynhaliwyd cyngerdd ym Mhontardawe nos Sadwrn, Ebrill 26 a chymerwyd rhan gan dros 100 o bobi ifanc lleol.

Mae'r band yn wir wedi dod â mwynhad i gannoedd o blant ac oedolion dros y blynyddoedd. O dan arweiniad medrus a gofalus Wayne Pedrick mae sŵn unigryw y band pres yn dal i atseinio yn yr ardal. Diolch yn fawr iddo am ei ymroddiad a gobeithio daw yr un llwyddiant dros y deng mlynedd nesa! Pen-blwydd hapus iawn a llongyfarchiadau!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý