Mae'r geiriadur yn diffinio hobi fel 'gweithgarwch amser hamdden sy'n difyrru' a tra bo eraill yn pysgota ac yn casglu stampiau y mae yna hobi tra gwahanol gan Alun Evans o Talbot Road, Rhydaman. Byth ers y diwrnod hwnnw nôl yn haf 1962 pan welodd awyren o'r enw 'Short Sunderland' mewn arddangosfa yn Noc Penfro y mae Alun wedi ei gyfareddu a'i swyno gan awyrennau. Arweiniodd hyn at ddiddordeb arbennig mewn coffau pobl a laddwyd mewn damweiniau awyren yn nyffryn Aman a'r cyffiniau ac erbyn hyn mae sawl cofeb wedi ei gosod yn yr ardal trwy ei ymdrechion. Ganwyd a magwyd Alun yn Rhydaman yn fab i Clarice a'r diweddar Dent Evans a oedd yn gapten ar dimau rygbi a chriced Rhydaman. Yn hytrach na dilyn ei dad i'r caeau rygbi a chriced, troi ei olygon tua'r awyr a wnaeth Alun a threuliodd ran helaeth o'i blentyndod yn gwylio pob math o awyrennau yn hedfan uwchben ac o gwmpas Rhydaman. Pan yn hŷn penderfynodd Alun fynd ati i godi cofebion i bobl a gollodd eu bywydau tra yn hedfan dros y rhan hon o Gymru. Y cofeb cyntaf a gododd oedd ar fryn o'r enw Rhydwenfach ger Llyn-y-fan Fawr i gofio am wyth o hedfanwyr a fu farw yno un noswaith arw ym mis Medi 1943 pan ddisgynnodd eu hawyren ar ei phen i mewn i'r ddaear. Daeth yr awyren i lawr mewn llecyn anghysbell ar y Mynydd Du ar uchelder o 1,800 o droedfeddi. Trwy ymdrechion Alun codwyd cofeb yno a chynhaliwyd gwasanaeth yno gyda'r Llu Awyr yn rhoi benthyg hofrennydd i gludo perthnasau y rhai a fu farw i fyny i'r llecyn unig ar y Mynydd Du. Yn Eglwys Brynaman mae yna gofeb arall a drefnwyd gan Alun i gofio am Americanwr a laddwyd yn Ebrill 1944 yn agos i Fferm Caeaunewydd. Y mae Alun wedi bod yn gyfrifol am ddau gofeb arall gyda un ohonynt yn Ninbych y Pysgod a'r llall ym Myddfai.. Y mae hanes diddorol tu ôl bob un o'r cofebion a cheir hanes y gofeb yn Myddfai yn y bennod 'The Sergeant at Christmas' mewn llyfr gyda'r teitl "The Bank Manager and the Holy Grail" gan Byron Rogers. Y mae y teuluoedd a gollodd eu hanwyliaid yn y damweiniau yna i gyd wedi bod yn ddiolchgar i Alun am drefnu'r cofebion. Y mae nifer fawr ohonynt wedi dweud wrtho fod ymweld â'r gofeb wedi cau pennod yn eu bywydau gan eu bod am y tro cyntaf yn gallu ymweld â'r man lle collodd eu perthnasau eu bywydau a dod i wybod y ffeithiau y tu ôl i'r digwyddiad. Er ei ddiddordeb mawr mewn awyrennau nid yw Alun wedi esgeuluso dim ar ei ddyletswyddau teuluol. Y mae ganddo ef a'i wraig Kathy ddau o feibion gyda Rhys yn gweithio yn J & J Motors, Cross Hands ac Owain yn cyflwyno y rhaglen newyddion i bobol ifanc 'Ffeil' ar S4C. Fe wnaeth diddordeb mawr Alun mewn hanes wneud iddo benderfynu newid gyrfa rai blynyddoedd yn ôl ac aeth i astudio yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Graddiodd yn llwyddiannus gyda gradd B.A. mewn Hanes yn 2000 a gradd M.A mewn Hanes Lleol llynedd. Ar hyn o bryd mae'n gweithio i Wasanaeth Llyfrgell Sir Gaerfyrddin gan fynd ag un o'r faniau teithiol o gwmpas pentrefi'r Sir. Dywed Alun na fydd yna ragor o gofebion ond mae wedi dweud hynny o'r blaen! Ei freuddwyd fawr yw adeiladu rhyw fath o hofrennydd neu awyren ei hunan. A fydd yn llwyddo i wneud hyn? Fe gawn ni weld ond mae Alun Evans wedi bod yn feistr ar gyflawni'r annisgwyl hyd yn hyn. Guto Llywelyn.
|