Sian Rhys Williams yw'r cynghorydd Arbed Ynni ac mae hi'n dod o Frynaman. Dywedodd Sian Rhys Williams "Rwy'n mofyn helpu cymaint ag sy'n bosib o bobol yr ardal. Gallech chi arbed £250 y flwyddyn trwy ddefnyddio mesurau arbed ynni.
Byddaf hefyd yn hapus i roi cyngor i deuluoedd, busnesau lleol neu siarad â grwpiau lleol yn yr ardal".
Swydd i berson lleol Dywedodd Ken Maddocks, Cadeirydd Awel Aman Tawe, " Rydym yn falch i roi'r swydd i rywun lleol sydd yn nabod yr ardal. "Mae yna lawer o grantiau ar gael i bobol leol sy'n gallu helpu i wneud eu cartrefi yn dwymach. Ond ar hyn o bryd does dim llawer yn gwybod bod y grantiau hyn ar gael.
"Gall Sian roi cyngor i deuluoedd, busnesau lleol neu grwpiau lleol, gan eu helpu nhw i lenwi'r ffurflen a rhoi cyngor yn eu cartrefi."
Pwysigrwydd arbed ynni Dywedodd Ken Maddocks hefyd, " roeddwn wedi cysylltu â phobol am y fferm wynt a dywedodd llawer bod arbed ynni yr un mor bwysig ag Ynni Adnewyddol.
"Roedd llawer wedi pleidleisio yn y refferendwm ac roedd hyn wedi perswadio'r noddwyr bod pobol leol â diddordeb mewn materion sy'n ymwneud ag ynni.
"Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Castell Nedd, Community Regeneration Fund ac i Key Fund sydd dan reolaeth Foothold yn Llanelli am ariannu swydd Sian.
|