Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Cae Ifan Gymro, Hen Barc - 34 o dai? Rhagor o gartrefi i'r dyffryn
Tachwedd 2005
... ond cartrefi i bwy?
Oeddech chi'n gwybod fod bwriad i adeiladu nifer helaeth o dai newydd yn Nyffryn Ogwen dros y blynyddoedd nesaf?
'Wel ardderchog' medda chi! 'Mae angen tai newydd yn yr ardal!' Oes, debyg iawn! A phwy ohonom na fyddai'n cytuno bod angen darparu cartrefi teilwng i'n pobol yn eu cynefin? Ond hanner munud '!'Wan, welsoch chi'n ffigyrau?

Os caiff Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd ei fabwysiadu, yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus maes o law, mae 'na bryder ymhlith rhai y bydd gor-ddatblygu mewn ambell fan. Beth ydi eich barn chi?

Ym Methesda argymhellir adeiladu 44 uned yng 'Nghae Boncs', Lon Newydd Coetmor, rhwng Plas Ffrancon a Hen Barc. Hefyd, 34 o dai ar dir Cae Ifan Gymro, Hen Barc a 4 tÅ· ger Pont Abercaseg, Braichmelyn. Cyfanswm o 82.

Yr argymhelliad yn Llandygai yw 15 uned ger Pen Twmpath, yn Rhiwlas 17 uned yng Nghefn Coch, ym Mhentir 8 uned tu ôl i Dafarn y Faenol ac yn Rachub 10 uned ger Llwyn Bleddyn.

Mae'r uchod yn ychwanegol at y safleoedd sydd eisoes wedi cael caniatâd, e.e. Carneddi - 10; Ffordd Stesion Bethesda - 12 tŷ; Bron Bethel Rachub - 9 uned, ayyb

Y cwestiwn pwysig ydi, ai i ateb y gofyn lleol yma yn Nyffryn Ogwen yr argymhellir y niferoedd uchod? Cwestiwn pwysig arall yw, a fydd y rhan fwyaf ohonynt yn gartrefi y gall ein pobl fforddio eu prynu - yn arbennig ein pobl ifanc?

Ym Methesda mae sôn y bydd rhyw 21 o'r tai yn dai fforddiadwy (tua 25%). Golyga hyn na fydd 61 ohonynt o fewn cyrraedd llawer iawn o drigolion yr ardal hon.

Tra'n cydnabod bod angen cymysgedd o wahanol fathau o dai mewn ardal, oni ddylid sicrhau fod canran llawer uwch na 25% yn dai fforddiadwy yn Nyffryn Ogwen. Mae trigolion yr ardaloedd hyn wedi hen arfer croesawu newydd-ddyfodiaid i'r Dyffryn ac yn dal i wneud, ond yn yr argyfwng cartrefi presennol oni ddylem roi blaenoriaeth i'n pobol ein hunain?

Deallwn fod gwrthwynebiadau i'r Cynllun Datblygu Unedol wedi eu cofrestru gan Gyngor Cymuned Pentir (gweler 'O'r Cyngor' yn rhifyn Tachwedd Llais Ogwan), a Chyngor Cymuned Bethesda, sydd yn anhapus â rhai agweddau o'r Cynllun. Gweler hefyd yr adroddiad o gyfarfod Plaid Cymru Dyffryn Ogwen a'r pwyntiau a godwyd ganddynt mewn llythyr at Gyngor Gwynedd ynglŷn â'u pryderon am y datblygiadau arfaethedig ym Methesda.

Mae LIais Ogwan yn cefnogi hawl trigolion y Dyffryn, a theuluoedd ifanc yn arbennig, i gael cartref yn Nyffryn Ogwen, os mai dyna yw eu dymuniad.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý