Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Cymunedau yn y Parc Cenedlaethol yn ganolbwynt i gynhadledd lwyddiannus
Ebrill 2003
Cynhaliodd Cymdeithas Eryri gynhadledd lwyddiannus yn Llanberis dros y Sul. Pobl yn y Parc' oedd teitl y gynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar gymunedau ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Cynrychiolwyr o wahanol fudiadau gwirfoddol, cynghorau cymuned, Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac eraill, pobl leol gyffredin yn ogystal ag academyddion, gafodd drafodaeth fywiog am sefyllfa'r cymunedau yn y Parc Cenedlaethol a syniadau ar gyfer eu dyfodol.

Pwysleisiodd Graham Day a Shan Ashton, y ddau o Brifysgol Bangor, bwysigrwydd cyfleon i gymunedau gyfranogi o'r dechrau cyntaf mewn proses penderfynu. Aeth Shan wedyn ymlaen i annog cymunedau i gychwyn eu prosiectau eu hunain yn eu ffordd eu hunain, gan ddyfynnu rhyw Wyddel anhysbys ei bod hi'n well chwilio am faddeuant na gofyn am ganiatâd.

Twristiaeth gynaladwy oedd pwnc Elwyn Owen, sy'n gweithio fel ymgynghorydd yn y maes. Dywedodd ei bod hi'n dda bod pobl yn mynd ar deithiau i fwynhau'r blaned, ond bod eisiau sicrhau nad ydy hynny'n niweidio'r amgylchedd na chymunedau lleol, gan unwaith bwysleisio mai'r perchnogaeth' (ysbrydol ac economaidd) gan y gymuned leol sy wrth wraidd llwyddiant yn hynny.

Harold Carter, Athro Emeritws o Brifysgol Aberystwyth roddodd arolwg ar hanes poblogaeth yn y Fro Gymraeg, gan ddangos fel roedd allfudo a mewnfudo wedi rhyngweithio efo ffactorau eraill i greu'r sefyllfa bresennol fregus i'r iaith Gymraeg ac i'r farchnad dai yn yr ardaloedd gwledig. Ar yr ail ddiwrnod, cafodd y cynadleddwyr gyfle i weld prosiect cymunedol ar waith yn Fforest Beddgelert, dan arweinyddiaeth Hywyn Williams, Swyddog Cyswllt Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Dywedodd Marika Fusser, Cyfarwyddwraig Bolisi Cymdeithas Eryri: Mi oedd yn dda gynnon ni weld trafodaeth mor frwdfrydig rhwng pobl o bob math o gefndiroedd, a gobeithio bod nhw'n dal ati i siarad a chydweithio er lles y cymunedau yn y Parc Cenedlaethol.'

Am fanylion pellach cysylltwch â Marika Fusser, Ty Hyll, Capel Curig LL24 0DS.

Cymdeithas Eryri
Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1968, a hi yw'r prif gorff elusennol sy'n gweithio i warchod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Gymdeithas yn gweithio'n agos gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, y Cyngor Cefn Gwlad, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y gymuned leol a chyrff eraill er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau prydferthwch ac amrywiaeth tirlun, bywyd gwyllt a diwylliant Eryri. Mae gan y Gymdeithas tua 2,700 o aelodau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý