Mae Tom Moore, 76 mlwydd oed, yn aelod o deulu sy'n hannu o Glasinfryn ond mae ef wedi cartrefu ers nifer o flynyddoedd ym Mangor. Dechreuodd fynychu cyrsiau a drefnwyd gan Ganolfan Gydol Oes, Cyngor Gwynedd yn y Llyfrgell ym Methesda rhyw 18 mis yn ôl. Roeddwn wedi clywed yr hogia yn siarad am yr e-bost a meddyliais mai da o beth fyddai i minnau gymryd diddordeb. Prynais gyfrifiadur, ond a deud y gwir doeddwn i ddim yn gwybod sut i'w droi ymlaen ar y dechrau.' Wedi gweld hysbyseb am y cyrsiau fe ymunodd yn syth ac mae wedi mwynhau y cwrs yn fawr. Ers darganfod y dechnoleg newydd mae'r byd wedi agor i Tom, ac mae'n defnyddio ei ddawn i gario ymlaen ei ddiddordeb mewn hel achau. Rwyf yn gallu cysylltu gyda theulu a ffrindiau ar draws y byd yn hawdd,' meddai, ac rwyf wedi gallu helpu pobol o America a Chanada i ddarganfod eu teuluoedd yn ardal Bangor hefyd'. Mr Medwyn Williams, Cydlynydd Cynllun Dysgu Gydol Oes yn y Llyfrgell ym Methesda a enwebodd Mr Moore am y wobr. Braint a phleser oedd cael bod yn Adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd i dderbyn Gwobr Rhwydwaith y Bobl ar ran Tom Moore. Mae Tom yn adnabyddus i lawer o ddefnyddwyr y Ganolfan hon. Mae nifer fawr ohonoch bellach wedi cofrestru ac yn dilyn cyrsiau yn y Ganolfan, gobeithio mai un o drigolion Dyffryn Ogwen fydd yn cipio'r wobr y flwyddyn nesa'. Fel rhan o gynllun Rhwydwaith y Bobl, mae cyfrifiaduron cyhoeddus yn y Llyfrgell. Ymunwch â'r Llyfrgell (am ddim) a chewch y cyfle i syrffio'r we, defnyddio'r meddalwedd i wneud gwaith cartref!!!, neu unrhyw ddogfen o'ch dymuniad. Mae llyfrau cyfrifiaduron yn y Llyfrgell ac mae yna feddalwedd ar CD-ROMau. Manteisiwch ar y cyfle.' Medwyn Williams
|