Amcan yr ŵyl flynyddol unigryw hon yw cynorthwyo i gynnal cysylltiadau rhwng y gwledydd Celtaidd a'i gilydd, a hynny drwy hyrwyddo diwylliannau a thraddodiadau Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Llydaw, Ynys Manaw a Chernyw.
Cynhelir cystadlaethau i gantorion, dawnswyr ac offerynwyr yn ogystal a gornestau mewn chwaraeon. Mae hi'n ŵyl gartrefol iawn, gyda'r gweithgareddau diwylliannol yn cael eu cynnal mewn neuaddau pentrefi, ysgolion a gwestai, ac mewn eglwysi a chapeli.
Beirniadaeth ganmoliaethus
Roedd yr ŵyl yn gyrchfan i Gôr Meibion y Penrhyn, ac mae'n dda cael cyhoeddi i'r côr gipio'r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth corau meibion a derbyn beirniadaeth ganmoliaethus am safon y sain a'r gerddoriaeth bersain a gynhyrchwyd. Yn un o eglwysi plwyf Donegal y cynhaliwyd y perfformiad ac roedd hi'n braf cael canu mewn adeilad gydag effeithiau acwstig mor dda.
Yn ôl y trefnydd llwyfan, Mr Walter Watcyn Williams, "Taith lwyddiannus a buddugoliaethus fu hon i Gôr Meibion y Penrhyn unwaith eto a braint fawr i mi yw cael bad yn rhan o gôr mor nodedig."
Taith gofiadwy
Pan ofynnodd gohebydd cerddorol Y Llais i Mr Williams beth oedd y peth mwyaf cofiadwy ynghylch y daith, dywedodd heb betruso, "Mae cael trefnu criw o ddynion mor ddisgybledig yn gwneud fy ngwaith i'n llawer haws ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu ymhob perfformiad bellach."
Aled Myrddin, enillydd Cân i Gymru eleni, ddaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth i gantorion unigol.
Ardal o harddwch
Dún na nGall yw Donegal mewn Gwyddeleg, a'i ystyr yw Caer yr
Estroniaid (neu Dinas y Gelynion).
Mae Swydd Donegal yn cynnwys y Gaeltacht - ardal Wyddeleg ei
hiaith - fwyaf yn Iwerddon, ac mae hefyd yn arbennig am ei phrydferthwch, yn enwedig yr arfordir.
Cafodd y Cyn-Archdderwydd Geraint Bowen ei ysbrydoli gan ei harddwch i lunio un o'n henglynion mwyaf swynol:
Dún na nGall
Enfys y gorllewinfor anwesai
ynysoedd y goror
un noswaith berffaith borffor
a thi a mi wrth y môr.
|