Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Carreg fedd Hugh a Priscilla Thomas 'Old Cheltenham Cemetary, Victoria' O Fethesda i Dasmania
Medi 2007
Dyddiadur taith Hugh Thomas o Fethesda i Dasmania. Yn y darn hwn mae'n gadel y steamer 'Iberia' ac yn ymuno a'r 'Fflinders' sydd yn ei dywys i ben y daith.
Sylwer, mae'r orgraff a'r sillafu gwreiddiol wedi eu cadw

Dydd Iau Gorph. 9fed
DAETHOM yn ein holau yn fuan i gario ein lugage ir Steamer arall or enw "Fflinders" i fyned a ni i Tasmania ar draws y Bass Straits.

Am 2 or gloch yr oeddym i gyd ar ei bwrdd ac wrth fyned yn mlaen yr oeddym i gyd yn canu ac yn ffarwelio ar hen "Iberia" ac yn wir yr oeddwn yn teimlo fy hun yn ddigon rhyfedd i ffarwelio a hi, trwy y cwbl yr oedd wedi bod yn gartref clud i mi a phawb oedd ynddi am chwech wythnos i groesi 13 mil o fôr.

Yn yr hwyr buom ni yn cadw Concert yn y "Fflinders" ac fe gawsom £1-1-6 am ganu ynddo. Wel yn wir rhaid i mi ddweud ein bod yn cael gwell bwyd o lawer yn hon, nag oeddwn yn ei gael ar "Iberia".

Dydd Gwener Gorph. 10fed
Am 9 or gloch boreu heddyw daethom i George Town Tasmania. Ni chawsom ond haner awr yma i newid Steamer eto i fyned a ni i fynu yr afon ir "Jetti" hon ydyw y Station ddiweddaf gyda'r Steamers.

Yr oeddym yn cyraedd yma tua 11 or gloch, yma hefyd y maent yn dyfod ar llechi etc. or chwarael. Yr oedd amryw o'n cyfeillion wedi dyfod i lawr i'm cyfarfod, ac yn wir yr oeddwn yn methu gwybod beth a wnawn wrth eu clywed yn gweiddi arnom cyn ein bod wedi landio a phawb yn falch wrth weled eu gilydd yn fyw ac iach ar ol y fath daith y daethom drwyddi.

Roedd genym eto 11 milldir o waith cerdded i fynu ir chwarel, ar hyd y tram. Ond yr oedd y merched ar plant yn cael eu cario yn y tryciau a phawb arall oedd yn dewis. Ond cerdded a wnaeth llawer ohonom, a chawsom law bron ar hyd y ffordd.

Coed sydd yn lle yr haiarn fel rail ar ei hyd, ac y mae hi yn myned i fynu ac i lawr (yr un fath ag y mae y wlad yma, bryn a phant bob yn ail o hyd, a cheffyla sydd yn tynu y tryciau.)

Daethom i Bangor erbyn tua 3 or gloch ac yr oedd y bwydydd mewn dau foarding houses mawr yn ein disgwyl. Ac yn yr hwyr gwnaethant Concert mawr i ni ar Cymru ar Seison yn ei gadw, fel rhwng pob peth fe aeth y diwrnod heibio yn ddifyr.

Dydd Sadwrn Gorph. 11fed
Heddyw cefais ychydig o amser i weled y lle yma om hamgylch. Ond yn wir nid oes yma ddim ond coed yw weled ac y maent yn agos iawn ie gilydd nes y maent yn dallu pawb, a dywedir mai felly y maent drwy yr ynys yma i gyd.

Ac y maent yn goed uchel iawn, ond nid ydyw y rhan fwyaf o honynt yn da i ddim ond yw llosgi. Ac hefyd y mae yn hawdd iawn colli y ffordd ynddynt.

Nid ydyw yn wlad wastad, ond bryn a phant bob yn ail ac yr wyf yn meddwl yn fwy felly na Chymru.

Dywedir fod yma dir ffrwythlon iawn ond tir claiog yw llawer ohono. Y mae yn ein hymyl ni yn Bangor yma ffermydd ardderchog ac y maent yn gofun arian mawr am danynt pan yn ei gwerthu. A byddaf yn meddwl fod yma rai lleoedd pur dda am ffarm, ond fod yn rhaid llafurio dipin ac felly y mae pob ffarmwr sydd yma wedi gwneud nes or diwedd y maent wedi talu yn ol am eu llafur

CHWAREL eto, y mae hon yn cael ei gweithio o dan y ddaear gerrig gwaelion iawn sydd ynddi, o liw du goleu, ac yn llawn o sulphur, ac y mae pawb mor ddu yn dyfod i fynu or twll, a phe byddant yn dyfod o waith glo.

Hefyd y mae yma fyrddau llifio ac engines naddu yn cael eu gweithio trwy steam, ac yn wir y mae yn rhaid eu llifio oherwydd ni wnant bleru, ac ni wyr neb pa ffordd yw eu hyd ar ol iddynt ddyfod ir top a phan yn eu hollti bydd rhaid marcio y rhan fwyaf oi hamgylch.

Dyma fel y dywedodd Benjamin Thomas Tyn Twr (Ben Jerri) pan ddaeth yma a dechreu gweithio ynddi. Fod yn werth dyfod o Gymru yma yw gweled dyma y chwarel rhyfeddaf a welais i erioed). A dyna i chwi dipin am y chwarel eto.

Tai coed sydd yma ac y mae yma lawer iawn ohonynt, mae un stryd pur fawr yn cael ei henwi yn Welsh Town, a Chymru ydyw y lliosocaf sydd yn byw ynddi. Rhif y boblogaeth sydd yma ydyw tua 300.

Dyna ddiwedd ar ddyddiadur Hugh Thomas. Gobeithio eich bod wedi mwynhau ei daith o Fethesda i Tasmania gymaint ag y gwnes i wrth ei ddarllen am y tro cyntaf.

Ond nid dyma ddiwedd hanes Hugh Thomas. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn cael cysylltiad â Keven Bradley, Tasmania, trwy Mr John Pilling o Lanfairfechan.

Mae Keven wedi gwneud ymchwil i hanes y bobl a ymfudodd o'r ardal yma i weithio gyda'r 'Bangor Slate Quarry Company, Bangor, Tasmania' ac mae wedi bod mor garedig ag anfon mwy o wybodaeth i mi am Hugh Thomas a'r chwarel.

Nid oedd y chwarel yn llwyddianus iawn ac ymhen dwy flynedd roedd wedi cau. Gwasgarwyd y gweithwyr, rhai yn mynd i chwilio am waith mewn chwareli eraill yn Awstralia ac eraill yn mynd i weithio ar y rheilffyrdd.

Aeth Hugh i Lefroy i gloddio am aur. Yno priododd a merch o'r enw Priscilla Jane Andrew ar y 25ain 0 Ragfyr 1889 (diwrnod Nadolig). Yn 1890 symudodd y ddau i Melbourne.

Ganwyd pump o plant iddynt, Cecil a anwyd yn 1890; Melville 1892; Llewelyn 1894; ac efeilliaid Louisa May ac William John 1901. Bu William farw ar ei enedigaeth.

Ganwyd tri o blant i Cecil, a thri i Melville, un ferch i Llewelyn ond ni wyddom a gafodd Louisa blant. Bu Hugh Thomas farw yn y flwyddyn 1917 a'i wraig yn 1932.

Mae Hugh a Prisilla wedi eu claddu ym mynwent 'Old Cheltenham Cementary, Victoria'. Gweler y llun uchod o'r garreg fedd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý