Côr Meibion y Penrhyn ddaeth yn ail mewn cystadleuaeth ardderchog. Bu'r Eisteddfod yn gofiadwy iawn hefyd, i nifer o bobl ifanc y Dyffryn:
Rhodri LlÅ·r Evans, Erw Las, Bethesda, yn ennill y Fedal Ryddiaith Elin Gwyn o Sling, Tregarth, yn ennill Medal yr Ifanc Elliw Mai, y gantores ifanc o Rhiwlas, yn ennill pedair gwobr gyntaf, ac ar ben hynny daeth yn ail yng nghystadleuaeth Medal yr Ifanc.Llongyfarchiadau mawr iddynt, a phob hwyl i'r dyfodol. Cafwyd cystadlu brwd drwy'r bore a'r prynhawn ymhlith plant yr ysgolion
cynradd lleol gyda Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen yn rhwydd lawn drwy'r amser. Roedd mam a dad, taid a nain, Yncl Wil ac Anti Nel, a phawb arall wrth eu bodd yn gweld y plant, o'r lleiaf i'r hynaf, yn mynd trwy'u pethau ar y llwyfan. Doedd y gynulleidfa ddim hanner mor niferus yn sesiwn yr hwyr, ond serch hynny, cafwyd Eisteddfod lwyddiannus eto eleni - ac fe orffennwyd yr holl weithgareddau am 11 .30! Diolch i bawb am yr holl waith a wnaethant i sicrhau llwyddiant yr Å´yl! Hir y parhaed y gwaith da! Hir oes i Eisteddfod Dyffryn Ogwen, sydd mor bwysig i feithrin doniau ein plant a'n pobol ifanc!
|