Dechreuodd y daith ar y 1af o Fedi ac maent ar hyn o bryd (Medi 30ain) wedi cyrraedd y ffin rhwng Awstria a Hwngari.
Mae eu taith wedi dilyn yr afon Rhein drwy'r Iseldiroedd a'r Almaen cyn croesi i ddilyn trywydd yr afon Ddonwy (Danube) a fydd yn mynd a nhw drwy Awstria, Hwngari, Serbia, Rwmania cyn diweddu yn Nhwrci.
Maent wedi cael ambell antur yn barod ac yn cael amser braf er fod beicio rhwng 80 a 100 milltir rhai dyddiau yn waith caled!
Mae Rhys hefyd yn hiraethu am ei deulu a'i ffrindiau yn y Dyffryn ar adegau.
Hoffai Rhys bwysleisio mai prif nod y daith yw casglu arian tuag at Cymorth Cristnogol.
Os hoffech ei noddi y ffordd orau yw mynd ar y wefan lle cewch nid yn unig gyfrannu at yr achos ond lie cewch holl hanes y daith a 'blog' swyddogol.
Os ydych ar 'facebook' gallwch weld 'blog' personal Rhys yn y grwp 'London to Istanbul'.
Os nad oes gennych gyfrifiadur ond yn dal yn awyddus i gyfrannu at ymdrech yr hogia mae croeso i chwi anfon unrhyw gyfraniad at Wyn neu Gwen, Pant y Gwair, Pont y Pandy, Bangor, Gwynedd, LL57 3AX lie bydd eich cyfraniad, eich enw a'ch neges yn cael ei drosglwyddo i'r wefan sydd wedi hel bron i £2,500 yn barod.
|