Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Y Prifathro Thomas N Corns Anrhydeddu un o Gilfodan
Ionawr 2004
Nid yn aml y bydd 'The Milton Society of America' yn anrhydeddu rhywun o'r tu allan i'r Unol Daleithiau, ond yn 2003 daethant i Ddyffryn Ogwen i ddewis Ysgolor Anrhydeddus y Gymdeithas ar gyfer y flwyddyn honno.
Y Prifathro Thomas N Corns, o Gilfodan, Carneddi, yw'r gŵr y daeth yr anrhydedd bwysig hon i'w ran, ac fe'i gwahoddwyd i'r cyfarfod blynyddol yn San Diego, Califfornia, ar 28 Rhagfyr, 2003 i dderbyn ei wobr.

"Rhyw fath o Seremoni Oscars i Feirniaid Llenyddiaeth y 17eg ganrif," oedd disgrifiad y Prifathro Corns.

Mae'r Prifathro Thomas N Corns, MA, DPhil (Oxon), FRHistS, FEA, yn arbenigwr ac yn awdurdod rhyngwladol ar fywyd a gwaith y bardd Milton, ac fe'i anrhydeddir am ei waith a'i gyfraniad aruthrol yn hybu diddordeb yn y bardd arbennig hwn, yn ogystal ag mewn Llenyddiaeth Saesneg y 17eg ganrif yn gyffredinol. Mae'n awdur toreithiog sydd wedi cyhoeddi nifer fawr o lyfrau yn y maes hwn.

Un o Prescot, Swydd Gaerhirfryn yw'r Prifathro Corns. Enillodd ddoethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen cyn cael ei benodi yn ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru ym Mangor yn 1965. A dyna pryd y daeth i fyw i Gifodan.

Mae'n briod â Pat, ac mae ganddo ddau fab, Robert a Richard. Mae Robert yn feddyg yng Nghaerdydd a Richard yn astudio yng Nghaergrawnt - y ddau wedi bod drwy'r system addysg yn ysgolion Pen-y-bryn a Dyffryn Ogwen, ac yn rhugl eu Cymraeg.

Mae'r Prifathro Corns bellach yn Bennaeth yr Ysgol Gelfyddydau a Dyniaethau y Brifysgol ym Mangor. Llongyfarchiadau calonnog iddo ar ennill y fath anrhydedd!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý