Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Sunnie Sutton Masnach Deg
Hydref 2005
Ym Methesda?
Mae gwraig fusnes o Fethesda yn gobeithio y bydd yn datblygu i fod yn dref Masnach Deg yn y dyfodol.
Perchennog siop ac Albert ar y Stryd Fawr ydy Sunnie Sutton sy'n byw ym Mraichmelyn ers 1997 gyda'i gŵr Matthew, a'u mab 2 oed, Oscar.

Mae ac albert ar agor ers dydd Gŵyl Dewi eleni ac mae Sunnie wrth ei bodd gyda'r ymateb lleol i'r hyn mae'n ei werthu. Mae'r siop yn drysorfa o bob math o grefftau a nwyddau, yn cynnwys crefftau lleol a chrefftau o Ghana, Zimbabwe ac Indonesia. Ymysg y cynnyrch lleol sydd ar werth mae crochenwaith gan Rick Midgley o Gerlan.

"Mae pob dim sydd yn y siop yn nwyddau Masnach Deg, neu yn nwyddau gan gynhyrchwyr sydd â pholisi masnachu moesegol," meddai Sunnie.

Mae mwy a mwy o nwyddau erbyn hyn yn arddangos y label Masnach Deg gan gynnwys coffi, te, ffrwythau, siocled, mêl, gwin a siwgwr. Mae'r label yn sicrhau'r prynwr fod y cynhyrchydd wedi derbyn pris teg am ei gynnyrch sy'n ei alluogi i ddatblygu ei fusnes yn ei gymuned, heb fod yn orddibynnol ar gwmnïau mawr.

Ac yn awr mae Sunnie yn awyddus iawn i weld Bethesda yn datblygu i fod yn dref Masnach Deg. Golyga hyn y byddai sawl siop a chaffi, yn ymrwymo i werthu nwyddau Masnach Deg. Mae'r nifer a fyddai'n gorfod ymrwymo i wneud hyn yn ddibynnol ar faint y boblogaeth.

"Mi fyddai'n wych petaem ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd y nod yma," meddai Sunnie.

"Fe all gymryd blynyddoedd, wrth gwrs, ond mi fyddai'n bosib i'w wneud e."

"Y peth cyntaf i'w wneud yw sefydlu pwyllgor, ac yna mynd ati i gydweithio oddi fewn y gymuned. Mi fyddai'n arbennig o wych gweld yr ysgolion lleol yn dod yn rhan o'r ymgyrch, a chwmnïau lleol."

Os oes unrhyw un â diddordeb bod yn rhan o'r ymgyrch, mae croeso i chi gysylltu â Sunnie trwy alw yn y Siop yn 55 Stryd Fawr, Bethesda neu drwy ffonio 01248 602730.

Yn y cyfamser, mae Sunnie yn brysur yn paratoi ar gyfer y Nadolig. Mae stoc newydd arbennig ganddi yn y siop, yn cynnwys cardiau ac addurniadau, a danteithion difyr ar gyfer llenwi hosanau'r Nadolig.

Ac mae wedi trefnu dwy noson i'r rhai ohonoch sy'n gweithio ac sy'n ei chael hi'n anodd cael amser i fynd i siopa yn ystod yr wythnos.

Bydd ac albert ar agor yn hwyr ar nos Fercher, 30 Tachwedd, rhwng 6.00 a 9.00 ac eto ar yr un amser ar nos Fercher, 14 Rhagfyr. Mi fydd hi'n cynnig gwin poeth a mins peis i'w chwsmeriaid ar y nosweithiau hynny. Mae'r siop ar agor fel arfer rhwng 10 y bore a 6 yr hwyr, ac mae'n cynnig gostyngiad o 10% i bensiynwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý