Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Rhys (yn dal y camera) ac Emyr Jones, dyn sain o Borthmadog, yn ffilmio ym Mrasil Yng ngwres y jyngl
Ionawr 2010
Rydym wedi hen arfer a gwylio selebs yn camfihafio yn y jyngl ar y teledu, ond mae Rhys Edwards sy'n byw gyda'i wraig Elenid yng Nglasinfryn, wedi cael y profiad yn uniongyrchol.

Mae Rhys yn ŵr camera gyda chwmni teledu Tinopolis ers 10 mlynedd, yn gweithio yn bennaf ar y rhaglen Wedi 7.

Ond treuliodd bythefnos yn ffilmio yn y jyngl ym Mrasil ar gyfer cyfres newydd ar S4C, Ras yn Erbyn Amser, sy'n cael ei darlledu'r mis hwn.

Mae'r gyfres yn dilyn Lowri Morgan, cyflwynydd Rario ar S4C, wrth iddi gymryd rhan yn ras Marathon y Jyngl, sy'n dilyn afon yr Amazon yn ardal Para y wlad.

Mae'n rhaid i'r cystadleuwyr yn y ras redeg dros 200 km mewn saith diwrnod a hynny mewn gwres llethol gan gario eu cyfarpar ar eu cefnau.

Mi wnaeth Rhys hyfforddi yn arbennig ar gyfer gweithio ar y gyfres, gan gystadlu yn Ras yr Wyddfa eleni.

Cwblhaodd y ras honno mewn un awr a 48 munud.

"Roedd gweithio ar y gyfres hon yn un o'r pethau anoddaf dwi wedi ei wneud," meddai Rhys.

"Roedd y gwres yn lIethol, ac roedd pob dim yn wlyb oherwydd y lIeithder.

"Roedd yn rhaid inni ddefnyddio camerâu arbennig oherwydd hynny."

Mwynhaodd Rhys y profiad ac mae'n lIawn edmygedd o Lowri ar ei champ yn cymryd rhan yn y ras.

Ond ni wnaiff anghofio un cyfarfyddiad un noson yn y jyngl.

"Mi ro'n i'n gorwadd yn fy hamog pan wnes i weld tarantula uwch fy mhen.

"Dwi erioed wedi bod yn or hoff o bryfaid cop, ac mae'n rhaid i mi gyfaddef, mi wnes i sgrechian! Wnes i ddim cysgu'n dda iawn y noson honno!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý