Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Mandy Baines, Llanllechid Llais y Mis
Hydref 2009
Merch gafodd ei magu ger Casnewydd ond sydd bellach wedi ymgartrefu yn Lanllechid ydi Llais y Mis Hydref 2009.
Rhowch rywfaint o'ch cefndir:

Fe ges i fy magu yn Rogerstone ger Casnewydd yng Ngwent. Roedd teulu mam yn dod o Gwmcarn a theulu dad o Henllys.

Mi es i Ysgol Basaleg ac wedyn i Brifysgol Caerdydd i astudio cerddoriaeth.

Ar ôl graddio, mi es i'r Coleg Cerdd a Drama i wneud blwyddyn o gwrs ôl-radd - y gitâr clasurol a'r liwt oedd fy offerynnau i, ac ro'n i'n chwarae mewn deuawd o gwmpas Caerdydd.

Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad be roeddwn am wneud fel gyrfa, ond wrth lwc, roedd recordio sain yn rhan o'r cwrs ac fe dyfodd y diddordeb yn y maes yma.

Ar ôl cwblhau'r cwrs coleg, cefais waith fel Rheolwr Stiwdio yn y Â鶹Éç yn Llundain. Roeddwn yn gweithio ar raglenni radio'r World Service yn Bush House a hefyd yn Broadcasting House.

Er fy mod i wrth fy modd efo'r swydd newydd, doedd byw yn Llundain ddim yn siwtio hogan o'r wlad o gwbl!

Ar ôl dros ddwy flynedd yno, daeth y cyfle i symud am 6 mis i'r Â鶹Éç yng Nghaerdydd ac ar ôl hynny i Fangor.

Tra'n gweithio ym Mangor, mi wnes i gyfarfod a Dylan, fy ngŵr, ac fel mae nhw'n dweud, the rest is history!

Ers hynny, rydym wedi cael merch, Mari, sydd erbyn hyn yn 8 oed ac yn mynychu Ysgol Llanllechid, ac mi rydw i a Dylan yn gweithio fel peirianwyr sain ar ein liwt ein hunain.

Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?

Mae Dylan a minnau'n hoff iawn o gerdded ac yn gwneud hynny mor aml a phosib.

Peth arall sy'n rhoi pleser mawr i mi ydi garddio ond mae'n rhaid i mi gyfaddef mai 'fair-weather gardener' ydw i!

Dwi hefyd yn aelod o'r Clwb Celf ym Methesda a mawr yw fy niolch i Anwen Burgess, yr athrawes, am yr holl anogaeth!

Mae mynychu'r Clwb Celf hefyd wedi arwain at ailafael yn y gitâr. Ar ôl peidio chwarae am tua 15 mlynedd, dwi rŵan yn chware mewn deuawd hefo Llew Owen o Dregarth sy'n briod â Val, ffrind o'r gwersi clef.

Cael amser i wneud yr holl bethau 'ma ydi'r broblem!

A oes gennych hoff le yng Nghymru?

Llawer ohonyn nhw! Dwi wrth fy modd yn cerdded y mynyddoed o gwmpas Llanllechid a Dyffryn Ogwen.

Mae Llanddwyn yn lle ysbrydol - arbennig iawn.

Hefyd mae'r mynyddoedd o gwmpas yr hen bwll glo yng Ngwmcarn lle'r oedd taid yn gweithio yn agos at fy nghalon.

A oes gennych hoff le y tu allan i Gymru?

Mae 'na gymaint o lefydd prydferth o gwmpas y byd. Un lle cofiadwy iawn ydi British Columbia yng Nghanada.

Aethom ni yno am dair wythnos rai blynyddoedd yn ôl, ac roedd y golygfeydd a'r teimlad o ehangder yn anhygoel.

Beth yw eich hoff fwyd?

Mae tecawe gan Abdul ar Stryd Fawr, Bethesda yn anodd iawn i'w guro!

Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C?

'04 Wal' - mae'n apelio at yr ochr fusneslyd ynof!

Pwy yw eich hoff berfformiwr cerddorol/grŵp o Gymru?

Rydym mor lwcus i gael cymaint ohonyn nhw! Mi es i weld Catrin Finch yn ddiweddar ac mi roedd hi'n wych!

Mi rydw i hefyd yn hoff o'r Stereophonics ac roedd Jess yn fand gwreiddiol iawn.

Beth yw'r peth gorau neu fwyaf buddiol i chi ei gael erioed?

Mae tÅ· gwydr, wrth gwrs, yn beth handi i arddwr ond y bwgan mawr yma yn Llanllechid ydi'r gwyntoedd cryfion sy'n chwythu o gyfeiriad Moelyci bob gaeaf - mae nhw wedi mynd a dau ohonyn nhw oddi yma'n barod!

Tua blwyddyn yn ôl, mi wnaethom ni osod un newydd - mae iddo siâp pyramid ac mae'r gwneuthurwyr yn honni y gall wrthsefyll y stormydd sydd i'w cael ar ynysoedd Gorllewinol yr Alban. Mae o'n dal yma beth bynnag!

Pa dymor o'r flwyddyn yw eich ffefryn, a pham?

Mae i bob tymor ei rinweddau wrth gwrs, ond os oedd rhaid dewis un, mi faswn i'n dewis yr Hydref.

Mi rydw i wrth fy modd efo'r lliwiau a'r llonyddwch arbennig sy'n nodweddiadol o'r tymor yma.

Ar ôl holl brysurdeb yr haf, be sy'n well nag eistedd efo llyfr o flaen y tân neu gerdded trwy goedwig gollddaill?

Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch erioed?

Dwi'n credu bod y canlynol yn ganllaw da: God grant me the senility to forget the people I never liked anyway, the good fortune to run into the ones I do, and the eyesight to tell the difference.

Hefyd, cyngor fy nhad i beidio a phrynu dim os nad wyt ti'n gallu talu amdano.

Beth sy'n eich gwneud yn hapus?

Cael amser efo fy nheulu a gwybod ein bod i gyd yn iach ac yn hapus.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý