Bu si ar led ers rhai misoedd bod siop gig newydd i agor ar y Stryd Fawr, ac erbyn hyn cafodd Llais Ogwan gadarnhad gan Bryn Williams, Gwern Gof Uchaf, bod y stori yn wir ac y byddai'n agor ei siop ym mis Gorffennaf. Enw'r siop fydd Gig Ogwen, ac fe'i lleolir yn 72 Stryd Fawr, dros y ffordd i Siop Bells, a'r drws nesaf i Siop Gareth Lewis. Newydd da iawn i'r ardal! Ond pam dewis yr enw 'Cig Ogwen'? Wel, yn syml, am mai cig wedi ei gynhyrchu'n lleol a werthir yn y siop newydd. Bydd Bryn ei hunan yn cyflenwi cig i'r siop, a hefyd yn prynu cig lleol drwy gwmni Cynnyrch Eryri Cyf. a ffurfiwyd gan rhyw 40 o ffermwyr lleol. "Bydd gennym ddewis helaeth o gigoedd i'w cynnig, yn cynnwys pecynnau BBQ ac ati, yn ogystal â'r toriadau arferol," meddai Bryn. Y newydd da arall yw mai'r un fydd yn edrych ar ôl y siop a'i chwsmeriaid fydd Gwyndaf Roberts. Fe'i cofiwch yn cydweithio gyda Kevin yn siop Thomas y Cigydd hyd at fis Gorffennaf 2004. Croeso cynnes yn ôl Gwyndaf. Dymunwn yn dda i Bryn, sydd yn hogyn lleol - wedi ei fagu yn Nhanysgafell. Gobeithiwn y bydd yn llwyddiannus gyda'i fenter newydd. Mae'n haeddu ein cefnogaeth! Na! Nid lIun 0 siop newydd Cig Ogwen a welwch uchad, ond lIun 0 siop gig Willie Parry, Bwtsiar, pan agorwyd hi yn 1922, gyda'r perchennog yn sefyll oddi allan. Bu siop gig ar y safle am 82 0 flynyddoedd. Byddai'n braf meddwl y gallai'r un IIwyddiant ddod i ran Cig Ogwen!!Na! Nid llun o siop newydd Cig Ogwen a welwch uchod, ond llun o siop gig Willie Parry, Bwtsiar, pan agorwyd hi yn 1922, gyda'r perchennog yn sefyll oddi allan. Bu siop gig ar y safle am 82 o flynyddoedd. Byddai'n braf meddwl y gallai'r un llwyddiant ddod i ran Cig Ogwen!! Diolch i Mr Bob Roberts, 6 Glan Ffrydlas a fu'n gweithio yn y siop honno o 1962 hyd at 1986 am roi benthyg y llun i'r LIais.
|