Bu'r beirdd ar hyd yr oesau yn canu clodydd Mai a'r mwyaf a'r enwocaf ohonynt oedd Dafydd ap Gwilym. Ystyrir ei gywydd i Fai gyda'r peth gorau a ysgrifennodd.Duw gwyddiad mai da y gweddai
Dechreuad mwyn dyfiad Mai.
Difeth igrys a dyfai
Dyw Calan mis mwynlan Mai.
Digrinflaen goed a'm oedai,
Duw mawr a roes doe y Mai
Neu i roi diweddariad Gwynn ap Gwilym ohono:
Gwyddai Duw mai gweddus (o beth) fyddai
Dechreuad tyfiant mwyn Mai.
Tyfai corsennau ir (yn) ddi-feth
Ar y dydd cyntaf o fis mwyn, glân Mai.
Gwnai coed heb grinder ar eu brigau imi loetran
Y Duw mawr a roes Mai ddoe.
Roedd Eifion Wyn yntau wrth ei fodd gyda mis Mai. Dyna fis ei eni a 'gwyn fy myd bob tro y dêl'. Gwnaeth llawer un sylw o'r coed drain gwynion eleni. Roedd eu harddwch yn rhyfeddol, arwydd i'r amaethwyr fod y tir wedi cynhesu digon i hau haidd.
Rhan o swyn y mis ers talwm oedd fod y tywydd wedi cynhesu digon i fwrw ymaith ddillad trwm y gaeaf a chofiwch, cyn oes y botymau hwylus, roedd pobl yn iro eu cyrff gyda saim ddechrau gaeaf, ac yn gwnio eu hunain i mewn i'w gwisgoedd trymion. Pan ddoi Mai, caent ddod allan o'r dillad trwm a chael cyfle i ymolchi am y tro cyntaf ers misoedd. Dyna paham roedd cymaint o briodasau ym mis Mai ers talwm!!
Rydym ni yn byw yn oes y gwres canolog a golau ar y strydoedd ac ni sylwn yr un fath ar rod y tymhorau. Ond eleni, pwy allai beidio sylwi fod Mai wedi cyrraedd yn ei holl ogoniant.
Mae Mai yn fis y cymanfaoedd a'r plant yn cael eu gwobrwyo am lafur cof a chael dod at ei gilydd i gyd-ganu a diolch am lawer o emynau ffres a chyfoes, amryw yn sôn am gonsyrn at gyd-ddyn a dyna ein hatgoffa'n syth am Gymorth Cristnogol a Dydd Ewyllys Da plant Cymru. Cyflwynwyd y neges eleni yn Eisteddfod yr Urdd gan Aelwyd Môn a braf oedd gweld sefydlu aelwyd newydd weithgar yno.
Roedd aelwyd wedi ei ailffurfio yn Llansannan hefyd a llynedd cafwyd aelwyd newydd arall yn y brifddinas, sef Aelwyd CF1. Tybed fyddai modd cael yr un peth yn ardal Bethesda? Mae yma ddigon o dalentau rwy'n siwr ac mae'r Urdd yn gallu cynnig amrywiaeth mawr o weithgareddau a chystadlaethau fel bo rhywbeth at ddant pawb. Beth amdani bobl ifanc Bethesda?
Braf oedd croesawu yn ôl i'r fro dalent a fagwyd yma, sef Gruff Rhys o'r Super Furry Animals. Fe ddaeth i agor y Gwe Gaffi newydd y gwelsoch gyfeirio ato ar ddalen flaen y Llais y mis diwethaf. Gobeithio y bydd y bobl ifanc yn cael budd mawr o'r lle. Mae rhai ohonom ni y rhai hŷn yn cael pleser mawr wrth fynychu dosbarth Gwyn Wheldon Evans bob pnawn Gwener a deallwn fod yna ddosbarthiadau eraill yn cael eu cynnal yno hefyd.
Ond i fynd yn ôl at y beirdd a mis Mai, dyma delyneg swynol gan Dafydd Morris sydd mor driw i'r Llais, telyneg i'r goeden ddrain gwynion.
Drain Gwynion
Mae gyda'r dlysaf yn y byd
A dillad claerwyn trosti'i gyd,
Yn gwisgo fel priodferch hardd
A'i breichiau'n 'mestyn am yr ardd.
Ni hoffwn i gofleidio hon,
Mae miniog ddur o dan ei bron.