Ffurfiwyd Parch yn Hydref 2001 er mwyn creu adnodd chwarae/hamdden i blant a phobl ifanc yr ardal. Yn sgil poblogrwydd diweddar sglefrfyrddio, teimlwyd bod angen rhywbeth cynaladwy y gallai trwch ein hieuenctid ei fwynhau. Ond gall ffasiwn fod yn beth byrhoedlog, ac felly penderfynodd Parch fod angen adnodd a fyddai'n cofleidio diddordebau trwch y bobl ifanc o feicio i sgwters i sglefrfyrddio. Eu gobaith hefyd yw adeiladu math o seddau ar gyfer cynulleidfa, neu fan cyfarfod am sgwrs. Dywed Cadeirydd y mudiad, Robert Parsonson, Rydym yn gobeithio apelio at y mwyafrif, nid Ileiafrif bychan sy'n dilyn ffasiwn ar hyn o bryd'. I'r perwyl hwn mae Parch wedi gofyn am grant i gynnal ymgynghoriad Cymunedol er mwyn sicrhau eu bod yn ateb gofynion y gymuned leol. Hyderir felly y gall pawb elwa o'r fath fenter. Mae cefnogaeth ieuenctid y Dyffryn i'r fenter yn ddi-gwestiwn. Teimlant eu bod yn cael eu beirniadu am sefyllian o gwmpas gyda'r nosau ger siopau neu mewn cysgodfannau bws, ond y rheswm am hyn wrth gwrs yw nad oes ganddynt unman arall i fynd. Byddai adnodd o'r fath felly'n plesio plant yn ogystal â'r oedolion sy'n bryderus am y tyrfau sy'n cronni'n gynyddol hwnt ac yma. Angen i gymuned dorchi llewys Ond, diwedd y gân yw'r geiniog, ac mae'n rhaid wynebu ffeithiau, ni ellir creu parc fel hyn ar ewyllys da yn unig - mae angen gwneud ceisiadau am grantiau, mae angen ymgyrchoedd i godi arian, ac mae angen Ilewys wedi'u torchi i wneud y gwaith. Y gymuned yn gweithio gyda'i gilydd er Iles y gymuned ei hun. Gobaith mawr Robert Parsonson yw y gellir ysbrydoli unigolion a busnesau Ileol i helpu i wireddu'r freuddwyd hon. Mae elfen amgylcheddol gref i hyn hefyd. Hyderir y gellir defnyddio deunyddiau Ileol gogyfer â'r gwaith, ac mae cwmnïau fel Cambrian Engineering wedi dangos diddordeb yn barod yn y fenter. Gellid defnyddio deunyddiau sydd eisoes yn bodoli er creu rhywbeth o'r newydd. Mae estheteg hefyd yn hanfodol bwysig, ac mae gan Parch ddylunwyr profiadol ac artistiaid lleol sy'n barod i gynllunio diwyg unigryw gogyfer â'r adnodd hwn, a phwysleisir fod angen i'r cyfan ymblethu'n ddiymdrech i gefndir y lleoliad arfaethedig ym Mharc Meurig ym Methesda. Felly, y cwestiwn nawr yw - pryd? Yr ateb syml yw nawr. Mae Parch yn weithredol er gwella Dyffryn Ogwen. Y gobaith yw y gall rhai ohonom helpu yn fenter hon - a thrwy hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd pobl ifanc ein Dyffryn. Os gallwch chi fod o gymorth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu mewn unrhyw ffordd, yna cysylltwch â Robert ar 01248 600061.
|