Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Catherine a'i chymar Gary Gwobr arbennig
Chwefror 2009
Mae'r storïwraig Catherine Aran, sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerberllan, ym Mraichmelyn, wedi ennill un o brif wobrau celfyddydol Prydain, sef Gwobr Sefydliad Y Celfyddydau.

Cyflwynwyd Cymrodoriaeth Y Celfyddydau 2009 iddi yn ogystal a gwobr ariannol sylweddol mewn seremoni yn Stiwdio'r Pentagram yn Notting Hill ar 28 lonawr.

Fei'i henwebwyd ar gyfer y gystadleuaeth gan Dez ac Ali Quarrelle o 'Mythstories', yr amgueddfa adrodd stori yn Wem, Sir Amwythig, wedi iddynt ei gweld yn perfformio.

Cafodd 120 unigolion o Brydain eu henwebu, a bu'n rhaid iddi anfon ei phortffolio at y beirniaid yn ogystal a CD ohoni'n adrodd stori.

Ar ôl ystyried gwaith yr ymgeiswyr ac ar ôl gwrando ar eu perfformiadau, dewiswyd Catherine ynghyd a thri storïwr arall i fynd Theatr y Barbican yn Llundain i berfformio o flaen y beirniaid a chynulleidfa.

Gofynnwyd iddi berfformio'n ddwyieithog a chafodd y gynulleidfa ganu cytgan Gymraeg cyn iddi ddechrau ar ei stori.

Mae'n debyg fod y beirniad wedi rhyfeddu fod Catherine yn gallu perfformio'n ddwyieithog, ac yn gallu newid o'r Gymraeg i'r Saesneg mor rhwydd a naturiol.

Cyflwynwyd y wobr iddi gan Annie Lennox, a oedd yn arfer bod yn brif leisydd yr Eurythmics.

Ychydig o'i hanes

Fe'i ganed ym Mangor ac ar ôl cyfnod ym Miwmares, symudodd gyda'i theulu bump o weithiau i wahanol ardaloedd gan fod ei thad yn gweithio mewn banc ac yn gorfod symud gyda'i waith.

Graddiodd mewn drama ym Mhrifysgol Aberystwyth a gweithiodd fel actores i sawl cwmni gan gynnwys Theatr Bara Caws, cyn dychwelyd i'r coleg i wneud ymarfer dysgu a chymhwyso'n athrawes.

Yna daeth ei nain, Mrs Malan Williams, ar draws hysbyseb yn y 'Cambrian News' am storïwr yn Llyfrgell Caernarfon.

Y bwriad oedd annog plant i ddarllen mwy a defnyddio mwy ar y llyfrgell.

Bu Catherine yn y swydd am bum mlynedd, a bellach mae'n gwneud y gwaith ar ei liwt ei hun, ac wedi perfformio mewn sawl gwlad.

Llongyfarchiadau mawr iddi.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý