Mi ddaru hi a'i chydgyfansoddwr Elfed Morgan Morris o Ddeiniolen, ennill tlws Cân i
Gymru eleni efo'u can 'Gofidiau'.
Mae'r gystadleuaeth yn un o uchelfannau'r flwyddyn i S4C, ac
mae'r rhaglen ymhlith y rhai mwyaf
poblogaidd ar y sianel.
Cystadleuaeth frwd
Cyflawnodd y ddau gryn gamp a
chofio bod 120 o ganeuon wedi eu
hanfon i'r gystadleuaeth cyn tynnu rhestr fer o wyth ar gyfer eu
perfformio ar y noson yn Venue
Cymru, Llandudno. Yn ogystal a'r
tlws trawiadol a welir yn y lIun, derbyniodd y ddau siec am £10,000.
O nerth i nerth
Mae Lowri ac Elfed wedi bod wrthi'n cydweithio ar gyfansoddi caneuon ers tro bellach.
Datblygodd y cyfansoddi ar y cyd pan oedd Elfed yn ddisgybl i Lowri yn Ysgol Brynrefail, a hithau'n
athrawes yn Adran y Gymraeg yno.
Cyfansoddi caneuon ar gyfer
sioeau cerdd yr ysgol oedd y
cychwyn, ac aeth y cyd-gyfansoddi
o nerth i nerth. Erbyn hyn mae
Elfed yn athro Cymraeg yn Ysgol
John Bright, Llandudno.
Partneriaeth lwyddiannus
Mae'r bartneriaeth greadigol
wedi taro deuddeg o'r blaen.
Roedden nhw eisoes wedi ennill
cystadleuaeth Carol Nadolig S4C
ddwywaith, ac wedi dod yn ail yng
nghystadleuaeth Can i Gymru yn
2005 gyda'u can 'Mewn Ffydd'.
Goreuon y Gwledydd Celtaidd
Dymunwn yn dda i'r ddau pan fydd
'Gofidiau' yn cael ei chlywed yng
Nghystadleuaeth yr Ŵyl Ban-Geltaidd yn Iwerddon ym mis Ebrill. Cynhelir yr ŵyl yn Donegal eleni, ac fel rhan o'r ŵyl bydd cyfansoddwyr a pherfformwyr o'r gwledydd Celtaidd yn cystadlu'n erbyn eu gilydd eto caneuon yn eu hieithoedd eu hunain. Gobeithio'n fawr y bydd 'Gofidiau' yn troi'r achlysur yn ddydd o lawen chwedl i Gymru, Dyffryn Ogwen a Deiniolen.
|