Yn hytrach na chael cystadlu ar ddydd Sadwrn o fore gwyn tan berfeddion nos, fe gynhaliwyd noson o gystadlu ar y nos Wener, gyda diwrnod o gystadlu ar y dydd Sadwrn i blant ysgolion cynradd.
Ddydd Sadwrn, cychwynnodd y cystadlu am 10 gan orffen yn daclus am 5 y prynhawn. Roedd Neuadd Ysgol Dyffryn Ogwen dan ei sang trwy'r dydd a phawb yn gadael ar yr un pryd wedi i'r corau gloi cystadlu'r dydd.
I'r rhai ohonoch a ddaeth i Neuadd Ogwen nos Wener, 20 Tachwedd, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod y gynulleidfa wedi cael gwledd o'r dechrau i'r diwedd.
Gan fod yr Eisteddfod yn cynnig gwobrau mawr eleni ar y nos Wener, fe lwyddodd hynny i ddenu cystadleuwyr talentog iawn o bell ac agos.
Hefyd, roedd yn dda gweld ein talentau lleol yn serennu ar y llwyfan yn y cystadlaethau.
Teithiodd pedwar côr i Ddyffryn Ogwen i gystadlu yn erbyn ein corau lleol, Cororion a Chôr Meibion y Penrhyn a chafwyd noson o gystadlu gwerth chweil.
Yng nghanol y cystadlu nos Wener, cynhaliwyd seremoni'r Orsedd a da oedd gweld teilyngdod ym mhob un o'r categorïau llenyddol i goroni'r
noson.
Yn ôl Lowri Roberts, Ysgrifennydd y Pwyllgor, "Mae hyn wedi bod yn garreg filltir bwysig yn hanes yr
Eisteddfod leol.
"Rydym wedi llwyddo i chwyldroi'r Eisteddfod gan fynd o niferoedd cynulleidfaol bychan a siomedig a diffyg
cystadlu i neuadd lawn gyda nifer dda o gystadleuwyr - rhai lleol a rhai sydd eisoes wedi llwyddo ar lwyfan cenedlaethol.
"Cawsom
feirniaid adnabyddus megis Robart Arwyn a Maldwyn John hefyd.
Mae'n rhaid anelu'n uchel i lwyddo. Roedd bwrlwm nos Wener yn fendigedig - dyma'r ffordd ymlaen yn sicr."
Meddai'r Cadeirydd, Siân Esmor Rees, "Ar y cyfan, rwy'n teimlo bod y drefn newydd wedi gweithio'n eithriadol o dda.
"Mi wnaethon ni
lwyddo i ddenu cystadleuwyr o safon uchel iawn ac roedd nos Wener yn noson o adloniant i'r
gynulleidfa.
"Roedd Eisteddfod y
plant ar y dydd Sadwrn yn llwyddiant mawr unwaith eto."
|