Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Gruff Rhys Noson Gruff Rhys
Ebrill 2005
- y gynulleidfa wedi ei swyno
Nos Fawrth, 8 Chwefror daeth Gruff Rhys, prif ganwr y Super Furry Animals i berfformio yn Neuadd Ogwen fel rhan o'i daith ddiweddar i hybu ei albwm unigol cyntaf, Yr Atal Genhedlaeth.
Cyhoeddodd Gruff, sy'n wreiddiol o Fethesda, ei bod yn braf bod yn ôl, a rhannodd hanesion ynglŷn â Neuadd Ogwen, pan oedd yn arfer mynd yno fel plentyn.

Roedd yr holl berfformiad yn Gymraeg gydag Alun Tan Lan yn cefnogi, ac roedd y gynulleidfa'n frwdfrydig drwy'r noson. Gyda thoriadau eithaf hir rhwng perfformiadau, teimlai'r mwyafrif o'r gynulleidfa'r angen i ymweld â'r tafarnau lleol a oedd yn gyfrifol am heclo anghyffredin dros ben!

Agorwyd y llenni i ddatgelu llwyfan wedi ei addurno gyda phlanhigion plastig, goleuadau Nadolig, aderyn mecanyddol a nifer helaeth o allweddellau ac offerynnau anghyffredin a doniol o syml. Safodd Gruff Rhys yng nghanol y llwyfan yn gwenu ar y gynulleidfa groesawgar ac yn gwisgo ei het wlân sydd bellach yn estyniad ohono!

Y peth cyntaf iddo ei wneud oedd tynnu'r raff!. Rhoddodd gerddoriaeth ramantus yn y cefndir a gofyn am gael atsain ar ei lais. Chwarddodd o ddeall bod yr enillydd yn ennill gwyliau i ddau yn Jamaica.

Wrth edrych arno roedd yn amlwg ei fod yn berfformiwr wrth iddo sefyll yn hollol hyderus o flaen y gynulleidfa a chario'r ffaith ei fod wedi anghofio'r geiriau wrth chwerthin ynghyd a'r gynulleidfa ac osgoi penillion y gân. Cymerodd ei sedd a thrafod ei fod wedi bod yn chwarae'r gitâr ar ei phen i lawr drwy ei holl yrfa gerddorol. Dangosodd hefyd ddarn roedd wedi ei ychwanegu at y gitâr er mwyn creu'r edrychiad ei bod y ffordd iawn. Roedd yn hollol gyfforddus ac roedd y gynulleidfa wedi ei swyno o'r dechrau.

Roedd ei gerddoriaeth yn syml ac yn arbrofol wrth iddo ysgwyd bocs matsys o flaen y meicroffon a'i recordio. Yna ychwanegodd offerynnau, harmonïau a geiriau gwahanol i adeiladu at gerddoriaeth orffenedig hynod o effeithiol wrth ailadrodd y sain gwahanol gyda'i gilydd.

Ymhellach ymlaen yn y set penderfynodd newid yr awyrgylch i'r sŵn cefn gwlad ar gyfer Cacan Ŵy Rhan 1. Recordiodd ei aderyn mecanyddol yn canu a chynnwys y gynulleidfa frwdfrydig a oedd yn fwy na pharod i gyfleu synau geifr. Unwaith roedd yn fodlon gyda'r effaith a'r naws, chwaraeodd y gân. Ar gyfer Cacan Ŵy Rhan 2 creodd awyrgylch y ddinas wrth ddefnyddio peiriant syml yn gwneud synau trenau, ceir a hyd yn oed llong ofod!

Nid dim ond ei ganeuon diweddar y chwaraeodd ond rhai o ganeuon y Super Furry Animals yn cynnwys Y Teimlad, a chân Ffa Coffi Pawb gyda'r gynulleidfa'n cydganu iddi.

Wedi iddo adael y llwyfan, ar ôl llawer o erfyn a chlapio yn y neuadd, dychwelodd Gruff Rhys yn diolch a chario ymlaen gyda rhagor o ganeuon.

Gorffennodd drwy wahodd Alun Tan Lan i gyfeilio ar y banjo i'r clasur, Chwarae'n Troi'n Chwerw. Gadawodd y llwyfan yn gwenu a'r gynulleidfa gyfan yn hapus dros ben gyda'r noson.

Wedi'r perfformiad, dywedodd Gruff ei fod wedi mwynhau'n fawr ac yn falch o gael bod yn ôl ym Methesda. Wrth gymharu perfformio'n unigol â pherfformio gyda'r Super Furry Animals dywedodd ei bod yn well ganddo fod gyda'r band ond ei fod yn gweld ei gerddoriaeth ei hun yn eithaf doniol, a chwarddodd ei fod yn bwriadu dysgu'r geiriau erbyn diwedd y daith. Gobeithiwn yn fawr nad Yr Atal Genhedlaeth fydd ei unig albwm unigol ac y bydd yn dychwelyd i Fethesda eto cyn bo hir. O ystyried ymateb gweddill y gynulleidfa, dyfalwn bod Bethesda gyfan yn gytûn ar y mater.

Gwenllian Dafydd ac Elin Gwyn


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Welsoch chi daith Gruff Rhys?
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý