Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Cyflwyno'r bws i'r prifathro, Mr Alun Llwyd gan Mr Chris Lowe, Rheolwr Gyfarwyddwr Chwarel y Penrhyn. Bws mini newydd i'r ysgol
Mehefin 2005
Daeth y 'Dolig yn gynnar i Ysgol Dyffryn Ogwen eleni - bws mini newydd sbon danlli.
Anrheg ar lês am dair blynedd ydi'r bws mini gan Chwarel y Penrhyn, a dyna'r rheswm dros gael enw masnachol y chwarel, sef 'Welsh Slate' ar y bws yn ogystal ag enw'r ysgol.

Dywedodd y prifathro, Mr Alun Llwyd, ei bod yn freuddwyd gan bob ysgol gael bws mini newydd, 'ond y dyddia yma all yr un ysgol fforddio prynu un newydd heb gael cymorth ariannol o rywle'. Felly daeth y cynnig yma gan y chwarel fel manna a'r nefoedd.

Dywedodd Mr Llwyd fod cysylltiad agos wedi bod rhwng yr ysgol a'r chwarel ers nifer a flynyddoedd, ac yn naturiol mae nifer o rieni'r ysgol yn gyflogedig yno. Mr Chris Lowe, Rheolwr Gyfarwyddwr y chwarel, gynigiodd y syniad i'r ysgol fel cyfraniad tuag at hybu gweithgareddau cymunedol, a dywedodd y prifathro na fu'n rhaid iddo feddwl yn hir iawn cyn derbyn y cynnig!

Bydd y bws newydd, sydd yn ddigon mawr i ddal tîm rygbi ac un chwaraewr wrth gefn, yn cael ei werthfawrogi'n fawr iawn gan y disgyblion a'r staff, a dywedodd Mrs Catrin Williams, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, eu bod i gyd yn wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth y chwarel. Roedd cymdeithas cyfeillion yr ysgol eisoes yn casglu ar gyfer prynu bws mini newydd, ond mi gaiff arian y gymdeithas bellach fynd at adnoddau eraill yn yr ysgol.

Mae'n braf dweud y bydd disgyblion yr ysgol bellach yn trafaelio mewn moethusrwydd modern, gyda system awyru a ffenestri tywyll! Diolch i Chris Lowe a'r chwarel am eu cefnogaeth.

O.N. Deallwn mai gwaith cyntaf y bws oedd cario parti o'r ysgol i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mae Caerdydd. Braf oedd gweld degau o bobl ifanc yn canu yn y corau ar noson olaf yr Eisteddfod. Teitl y gân olaf un oedd 'Mae ddoe wedi mynd - mae fory'n eiddo'i ni'. Beth amdani bobl ifanc y Dyffryn - beth am ffurfio Aelwyd erbyn y flwyddyn nesaf - mae'r dyfodol yn eich dwylo chi. Gol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý