Siwrne braf iawn a gawsom ar hyd y ffordd a theimlai pawb yn hynod ddiogel a chysurus ar y bws gwyrdd gyda Mr Jackson wrth y llyw.
Roedd cynnwrf ymysg pawb yng ngwesty moethus 'Premiere Inn' y bore canlynol, a'r plant a Mrs Lloyd ar dan eisiau cyrraedd y rhagbrawf.
Roedd pawb yn edrych yn hynod o swel yn eu crysau cochion a doedd dim blewyn o'i le yn unman.
I ffwrdd a llond bws o'r côr a'u cefnogwyr am y rhagbrawf a phawb yn croesi bysedd am Iwc dda.
Yn wir, daeth lwc a llwyddiant i'n rhan pan glywyd fod Ysgol Penybryn wedi cyrraedd y llwyfan. Boddwyd y neuadd wrth i bawb weiddi'n groch wedi llawenhau!
Canodd y côr ar lwyfan enfawr Canolfan y Mileniwm gan swyno'r gynulleidfa gyda'u sain pur a pheraidd.
Yn ddi-os, doedd dim amheuaeth yn llygaid y beirniaid, nac yn llygaid trigolion Bethesda a'r fro mai Ysgol Penybryn oedd yn llwyr haeddu'r wobr gyntaf.
Hoffem longyfarch holl blant y côr a Mrs Ceren Lloyd am eu buddugoliaeth yn Eisteddfod yr
. Urdd, Caerdydd.
Dwi'n siŵr y bydd Y dathlu'n parhau yn Ysgol Penybryn
am rai dyddiau eto - "Parti i'r plant, plis Mrs Lloyd?"...
|