Yn brif ddisgybl ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, ef oedd i fod yn Archdderwydd yn ystod Seremoni'r Orsedd yng nghyfarfod yr hwyr, ond yr oedd ganddo syniadau amgenach. Y llynnedd fe lwyddodd i osgoi unrhyw gyfrifoldeb yn yr Orsedd trwy ddod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Medal yr Ifanc. Tipyn o gamp, meddech, wel ie, debyg. ond nid oedd Rhodri yn fodlon ar hynny, oherwydd eleni ef enillodd Fedal Lenyddieth Agored Eisteddfod Dyffryn 0gwen! Yr enillydd ieuengaf mewn cof! Mewn cystadleuaeth o safon, dywedodd y beirniad, Y Prifardd Meirion Macintyre Huws fod dawn dweud gynnil yr awdur hwn yn pefrio ym mhob brawddeg a'i fod yn awdur sylwgar a deifiol o gynnil ar adegau. Dyfarnodd fod Dagrau Hallt, fel y'i llysenwid ef, yn llawn haeddu'i anrhydeddu â'r wobr gyntaf. Dylid nodi fod Rhodri wedi trechu llenorion o bell ac agos a rhai llawer mwy profiadol nag ef. Mewn oes sy'n fwy na pharod i gollfarnu a pheintio ein pobl ifanc a'r un brwsh pardduol, pleser yw gallu cofnodi lwyddiant Rhodri, yngyd â'r toreth o bobl ifanc a ildiodd eu dydd a nos Sadwrn er mwyn cyfrannu tuag at barhad y diwylliant Cymreig yma yn Nyffryn Ogwen. Pleser oedd i gymaint ohonom ninnau'r rhai hyn gael rhannu eu cwmni ar noson o'r fath. 'I Rhodri Aeth graen ei ryddiaith gryno Yn llwyddiant ei haeddiant o.' (Ieuan Wyn)
|