Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Y criw hefo Hywel Gwynfryn Balchder bro
Ebrill 2010
Bu grwp o wirfoddolwyr Balchder Bro Ogwen a gweithwyr Cyngor Gwynedd ar y radio yn ddiweddar.

Clywyd lleisiau Neville Hughes, Cadeirydd Balchder Bro Ogwen, ac aelodau eraill o grŵp Balchder Bro Ogwen yn sgwrsio hefo Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru yn ddiweddar, wrth iddyn nhw fynd ati i glirio sbwriel o'r cae chwarae yn Abercaseg a lIefydd eraill.

Roedden nhw'n defnyddio eu ffyn newydd i godi sbwriel, a brynwyd gyda grant Trefi Taclus gan Gyngor Gwynedd mewn cysylltiad a Chadw Cymru'n Daclus a Llywodraeth y Cynulliad. Cawson nhw gymorth hefyd gan Iona Thomas, Swyddog Trefi Taclus, ac aelodau Gang Cymunedol y Cyngor.

"Trwy gydweithio a Gang Cymunedol Cyngor Gwynedd roedden ni'n gallu clirio mwy o eitemau a lIenwi dau sgip a sbwriel," eglurodd Paul Rowlinson, ysgrifennydd Balchder Bro.

"Roedd hyn yn cynnwys gwahanol rannau o geir, olwynion, bymper a phibell wacau, yn ogystal a'r tuniau a'r cynwysyddion plastig sydd mor aml yn cael eu lluchio'n ddiofal.

"Mae'r Gang Cymunedol yn ymweld a gwahanol rannau o'r sir yn eu tro a gallan nhw wneud amrywiaeth o dasgau, beth bynnag sydd ei angen yn lleol, a dweud y gwir."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý