Roedd y dref wedi cau am rai dyddiau.Bu'n rhaid i gysodwyr Llais Ogwan, Gwasg Carreg Gwalch gau'r swyddfeydd am ddiwrnod oherwydd iddynt gael chwe modfedd o ddŵr yn llifo i mewn. Disgynnodd chwe modfedd o law mewn 24 awr gan achosi i'r afon Conwy orlifo a chreu llifogydd trychinebus gan foddi caeau cyfan. Gwelsom ddarluniau brawychus ar y teledu o bobl yn gorfod cael eu hachub gan hofrennydd. Truenus hefyd oedd gweld cartrefi pobl dan tua dwy droedfedd o ddŵr a phopeth wedi llwyr ddifrodi, nid unwaith, ond ddwywaith o fewn yr un wythnos. Hefyd gwelwyd delweddau torcalonnus o'r anifeiliaid druan hynny, yn wartheg ac yn geffylau, wedi'u cau i mewn gan lifogydd. Mae sôn na bu modd achub dau o'r ceffylau hynny. Yma yn Nyffryn Ogwen, cafwyd llifogydd mewn rhai mannau ac mae nifer o deuluoedd wedi wynebu difrod a llanast yn eu cartrefi. Pan oedd y storm ar ei garwaf yma yn Nyffryn Ogwen ar y dydd Mawrth, roedd y llif yn yr afon Ogwen yn wirioneddol ffyrnig. Profiad dieithr ac eithaf brawychus oedd croesi'r bont fechan o'r stryd fawr i Barc Meurig. Yn wir, roedd rhuthr swnllyd y dŵr islaw yn mynd â'ch gwynt. Roedd yr afon fel petai'n berwi. Honnai nifer o drigolion na welsant yr afon mor uchel â hynny ers blynyddoedd. Diolch na welodd Bethesda lifogydd fel a gafwyd yn Llanrwst ac ardaloedd eraill yng Nghymru.Erbyn hyn, bydd nifer ohonoch yn edrych ymlaen i gael cefnu ar y gaeaf ac yn ysu am ddyfodiad y gwanwyn a'r haf, teimladau sy'n cael eu crisialu yn y llinellau canlynol: 'Doe ysgubai'r noethwynt Dros farian llwyd y byd - Gaeaf a'i drai dan droed. O 'Y Llanw' gan Jenkin Morgan Edwards. Unwaith daw eto wanwyn Dolau glas a deiliog lwyn, A gwe o liwiau gloywon A wisg frig mân wrysg y fron. O 'Unwaith daw eto wanwyn' Caniadau, T Gwynn Jones
|