Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Ogwan
Bryn Williams Llais y Mis
Hydref 2008

Holi Bryn Williams (Cig Ogwen)

Cefndir

Fe'm ganed yn Nhanysgafell, Bethesda ym 1964, yr ieuengaf o dri mab i Maldwyn a Joyce Williams.

Mynychais Ysgol Tregarth ac Ysgol Dyffryn Ogwen cyn ymuno a Manweb i wneud prentisiaeth fel trydanwr, gan weithio yn depo Caernarfon am 16 mlynedd. Rwy'n briod a Sue ac mae gennym ddau o blant (drwg!) Kirsty a Kieren.

Bum yn ffodus yn 1995 o gael tenantiaeth Gwern Gof Uchaf ac yno yr ydym yn ffermio llawn amser.

Yn 2005 penderfynwyd agor 'Cig Ogwen' lle mae llawer ohonoch yn gweld Gwyndaf bob wythnos a finnau weithiau! Dyma gyfle i ddiolch i bawb am eich cefnogaeth.

Beth fyddwch yn mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden?

Ffermio!

Oes gennych hoff le yng Nghymru?

Cwm Tryfan - cerdded i fyny Braich y Ddeugwm, ac edrych i lawr dras y stoc ar ddiwrnod braf.

Oes gennych hoff le y tu allan i Gymru?

Yr Yorkshire Dales - heb fod yno ers talwm ond mae gennyf atgofion melys o wyliau yno yng nghwmni Sue a'r plantos.

Beth yw eich hoff fwyd?

Cinio dydd Sul wrth gwrs - tatws rhost a chig Ileol.

Beth yw eich hoff raglen Gymraeg ar S4C?

Methu dewis rhwng dwy raglen sef Cefn Gwlad a C'mon Midffild.

Pwy yw eich hoff actor/actores o Gymru? Neu gyflwynydd? Pwy ond Dai Jones - mae o wastad yn gallu'n diddanu.

A oes gennych hoff Iyfr Cymraeg?

'Oes o Fyw ar y Mynydd' gan Margaret Roberts o Glan Llugwy

Beth yw'r cyngor gorau a gawsoch erioed?

Cau dy geg a gwranda!

Beth sy'n eich gwylltio'n gacwn?

Gwaith papur heb fod eisiau, canolfannau galw a llysieuwyr!

Beth sy'n eich gwneud yn hapus?

Lerpwl yn curo Manchester United!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý