Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
mwynhau yn Wa! Bala Wa! Bala
Hydref 2007
Mae'r ŵyl wedi tyfu'n aruthrol ers yr un gyntaf yn 2004 ac mi fu gŵyl eleni yn llwyddiant ysgubol eto..
Bu'r ŵyl flynyddol yn llwyddiant ysgublol eto eleni ac mae'r trefnwyr i'w llongyfarch yn fawr am fynd ati i drefnu digwyddiad sydd yn sicr ar galendr pawb sy'n mwynhau cerddoriaeth dda a chymdetihasu yng Ngogledd Cymru a'r Canolbarth.

Rhyfedd meddwl pa mor sydyn y mae'r ŵyl wedi tyfu, o'r dorf o 450 ddaeth at ei gilydd yn 2004 i'r 2,700 fu yno eleni. Nid mater bach yw trefnu gŵyl fel hyn a hynny dan lygaid barcud swyddogion iechyd a diogelwch.

Er bod yr agwedd honno yn ychwanegu'n sylweddol at y costau mae'n bris y bydd yn rhaid ei dalu i'r Å´yl fedru parhau ar yr un raddfa.

Wedi cychwyn ar lan Llyn tegid a mentro i'r Grin y llynedd, roedd gosod y babell ar gaeau Rhiwlas yn fenter newydd eleni ond yn sicr bu'n llwyddiant.

Un agwedd ar Wa Bala sy'n gysion bob blwyddyn yw parodrwydd cymedeithasau lleol i gyd-weithio i sicrahu llwyddiant. Dyma ddigwyddodd eto eleni gyda chymaint â 120 o wirfoddolwyr yn helpu.

Heblaw cael y bobl leol i gydweithio, peth arall sy'n holl bwysig gan y trefnwyr yw sicrhau bod pawb sy'n mynychu yn cael clywed y gerddoriaeth Gymraeg orau a hynny at bob dant.

Yn sicr fe lwyddwyd i wneud hynny eleni, fe ddaeth Folta, Labrinth, Cowbois Rhos Botwnnog, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Meinir Gwilym a Dafydd Iwan i'r llwyfan nos Wener ac yna Pala, Yr Anioddefol, Moving Lights, Cowbois Celtaidd, Frizbee, Gwibdaith Hen Frân, Gai Toms, Gola Ola, Elin Fflur a Radio Luxembourg ar y nos Sadwrn, dyna i chi arlwy, a hynny ar ein stepen drws yn y Bala.

Trefnwyd digonedd o weithgareddau i'r plant ar y prynhawn dydd Sadwrn ac wrth gwrs roedd raid cael y Reslo yn ôl ar y Dydd Sul.

Llongyfarchiadau i'r trefnwyr am drefnu penwythnos gwych ac am sicrhau y bydd nifer o gymdeithasau lleol yn cael budd ariannol.

Eleni hefyd roedd £1 o bris pob tocyn yn cael ei roi at gronfa Brian Davies sy'n dweud y cwbl am agwedd y trefnwyr tuag at yr Ŵyl ac at yr ardal.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý