Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Coleg y Bala Hanes y Pasg
Mawrth 2006
Efallai fod rhai ohonoch wedi sylwi ar y dair croes oedd yng ngardd cefn Coleg y Bala adeg y Pasg y llynedd, roedden nhw yno oherwydd digwyddiad blynyddol arbennig, ac fe fyddan nhw yno eto eleni.

Ym 1997 dechreuwyd arbrawf yn y Coleg pan cynhaliwyd y cyrsiau Pasg cyntaf i ysgolion cynradd.

Tair ysgol leol ddewr fentrodd i'r Coleg y flwyddyn honno, a llawer yw'r diolch iddynt am eu cefnogaeth.

0 dipyn i beth daeth mwy a mwy o ysgolion acw o flwyddyn i flwyddyn, a'r ysgolion lleol unwaith eto yn hynod gefnogol, ond bellach ambell i ysgol yn teithio cryn bellter i ddod ar y cwrs.

Erbyn llynedd roedd pob un o'r 16 diwrnod a glustnodwyd ar gyfer y cyrsiau wedi eu llenwi, a bu'n rhaid trefnu 3 diwrnod ychwanegol ar ôl y Pasg. Bu dros 650 0 blant yn clywed Hanes y Pasg i gyd.

Yn ystod y dydd byddwn yn cyfleu'r stori drwy olygfeydd o'r hanes, gan ddefnyddio'r Coleg fel 'set' o Jeriwsalem.

Bydd ambell gymeriad yn ymuno a ni i helpu i ddweud yr hanes; yn y .. gorffennol bu perchennog yr Oruwch Ystafell yn rhannu ei brofiadau yn ogystal a Malchus, y gwas oedd yng Ngardd Gethsemane.

Mae'r gwahoddiadau yn mynd allan i'r ysgolion am eleni ar hyn o bryd, a'r dyddiau'n dechrau llenwi'n barod.

Felly, pan fyddwch yn gweld ambell i fws yn aros wrth y Coleg o ganol Mawrth hyd ddechrau Ebrill, fe fydd gennych ryw syniad beth fydd yn digwydd acw.

Nia W.Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý