Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Canolfan Cywain Agor Canolfan Cywain
Mai 2008
Gwireddu breuddwydion - gan Llew ap Gwent
Profiad prin yw gwireddu breuddwyd ond y mis Mai hwn bydd yn digwydd pan ddaw'r byd i wybod am Ganolfan Cywain y Rhiwlas.
Dyma flaen ffrwyth blynyddoedd o ddyheu ac ymdrech gan gyfarwyddwyr a staff Antur Penllyn; ar adegau edrychai'n ddu ond dyfal donc ...

Dyma adnodd newydd unigryw i drigolion Penllyn a buddsoddiad ariannol sylweddol iawn a ddaw ag ymwelwyr ac elw i fusnesau'r ardal.

Mae'r adeilad unigryw hwn, a gynlluniwyd gan y pensaer Huw Owen, yn ymgorfforiad o weledigaeth gynnar yr Antur, sef cryfhau economi Penllyn a chryfhau ymwybyddiaeth ei thrigolion o werth eu treftadaeth yn ddiwylliannol ac yn ariannol.

O'r dechrau rydym wedi ystyried y Gymraeg yn adnodd cyn bwysiced â Llyn Tegid a'r Aran at ddiben denu ymwelwyr i Benllyn. Mae yna filoedd o ddysgwyr a theuluoedd Cymraeg ar hyd ac ar led y wlad nad ydynt yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith yn gymdeithasol; ein neges ni yw "Ewch i Nant Gwrtheyrn i ddysgu'r iaith, dewch i Benllyn i'w defnyddio!" Araf fu ymateb busnesau'n gyffredinol i'r alwad am "bapur wal Cymraeg" yn mannau cyhoeddus y Bala, faint o fwydlenni Cymraeg sydd i'w gweld ar y Stryd Fawr? Hawdd beio perchnogion busnes ond rydym ni'r cyhoedd ar fai hefyd nad ydym yn mynnu gwell gwasanaeth.

Beth wnelo hyn â Chanolfan Cywain? Mae'r Ganolfan yn ffocws i hunaniaeth Penllyn a hefyd yn ganolbwynt i syniadau newydd ym myd busnes. Mae'r ddwy elfen yn uno'n drawiadol yng ngwaith Huw Owen. Does bosib osgoi'r cysylltiad. Ymhlith y gweithgareddau a fydd yn cael eu trefnu gan y staff bydd digwyddiadau wedi eu hanelu'n benodol at ddysgwyr y Gymraeg, yn blant ac oedolion.

Mae cryfder y Gymraeg ym Mhenllyn yn allweddol i'r weledigaeth ac i'r perwyl hwn mae'r Antur, efo cefnogaeth Bwrdd yr laith, wedi bod yn gweithredu cynllun cymathu mewnfudwyr di- Gymraeg ers blwyddyn a hanner. Rydym yn ymweld a chartrefi, esbonio cefndir ieithyddol yr ardal a'i hanes ac annog y mewnfudwyr i ddysgu'r iaith a dod yn rhan o'r gymuned. Bu'r ymateb yn gadarnhaol, rhai yn mynd ati i ddysgu, eraill yn methu am amrywiol resymau ond pawb bron yn cydnabod lle'r Gymraeg ac yn adnabod eu lle fel mewnfudwyr. Yn anffodus, am resymau ariannol, daeth nawdd Bwrdd yr laith i ben ond mae Canolfan Cywain yn cynnig cyfle i ni barhau a'r gwaith a threfnu rhaglen o ddigwyddiadau a fydd yn dod a'r brodorion a'r "Cymry newydd" at ei gilydd.

Ydych chi wedi bod draw am dro i Ganolfan Cywain? Mae yna lawer i'w weld - yr adeilad rhyfeddol a'r gwaith celf oddi allan i gychwyn...

Oes mae yna un freuddwyd wedi ei gwireddu ond mae yna freuddwydion eraill a'r pennaf un yw diogelu dyfodol y Gymraeg ym Mhenllyn drwy greu gwaith i'n pobl ifanc i'w cadw yma a chymathu'r mewnfudwyr. Ydych chi'n cytuno? Ymunwch â ni yn Antur Penllyn i ysgwyddo'r cyfrifoldeb - mae pleser mawr i'w gael o wireddu breuddwydion!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý