Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Dafydd Thomas Dod o hyd i frawd ar goll yn yr Amerig
Ionawr 2008
Fel ieuenctid yr oes hon, roedd na ysbryd anturus iawn yn perthyn i'n cyndadau. Er mor faith ac anghyfforddus y siwrneion roedden nhw'n barod i deithio i bellafoedd daear.

Trwy garedigrwydd y teulu, cawn yma hanes un ohonynt, sef Dafydd Thomas Cwmonnen, un sydd â llawer o'i ddisgynyddion yn byw ym Mhenllyn.

Ganwyd Dafydd Thomas yn 1876 yn fab i Thomas a Siân Thomas Cwmonnen. Roedd iddynt bedwar ar ddeg o blant a Dafydd oedd yr ieuengaf ond un. Mae darlun ar gael o'r fam mewn gwisg Gymreig hefo'r droell pan enillodd y wobr am nyddu yn Eisteddfod Llanuwchllyn yn yr 1890au.

Mynychodd Dafydd Thomas ysgol Llanuwchllyn am rai blynyddoedd cyn mynd adre i weithio a gweini ar ffermydd y fro. Tyfodd yn llanc heini a chryf dros chwe troedfedd o daldra.

Ym 1894, ac yntau'n ddeunaw oed, gadawodd Lanuwchllyn a mynd i weithio i'r Cotwm yn Lerpwl. Ar ôl bod yno am ddwy flynedd penderfynodd fynd i'r Amerig. Roedd dau frawd iddo wedi mynd drosodd tua 1890 ond daeth Ifan adre ymhen ryw ddwy flynedd gan adael ei frawd Rowland yno.

Cyn pen wythnos wedi i Dafydd lanio cafodd waith ar fferm. Yna cafodd lythyr gan ei fam yn dweud nad oedd wedi clywed oddi wrth Rowland ers tipyn a'i bod yn dechrau anesmwytho amdano. Gofynnodd iddo a wnâi ymholiadau yn ei gylch.

Anfonodd yntau lythyr at ddau o'i gydweithwyr yn Califfornia a chael ateb oddi wrthynt yn dweud na wyddent ymhle yr oedd ar y pryd ond yn rhoi cyfeiriad iddo ble byddai debycaf o glywed, a chyfarwyddiadau ar sut i gael hyd i'r tÅ· lle'r arhosai ddiwetha'.

Mae'n codi ei bac a chroesi'r Amerig i Galiffornia. Daeth o hyd i'r llety le'r arferai ei frawd aros ond yn ôl y letywraig roedd ei frawd wedi mynd i Shasta i weithio i'r mwynfeydd a'i fod i ddod yn ei ôl ymhen rhyw ddau fis. Cafodd Dafydd lety yno i aros i'w frawd ddychwelyd a gweithiai mewn stablau.

Ymhen dau fis dywedodd y letywraig:
"The boat from the North is due tomorrow and you brother should be on it."
Aeth yntau i gyfarfod y llong a gwelai ei frawd yn dod i'w gyfarfod. Fe'i dilynodd i dy bwyta a chan gydio mewn cadair gofynnodd i Rowland:
"Is this chair taken?"
"No," meddai yntau.
"Any objections for me to take it?"
"No," oedd yr ateb eto.
Eisteddodd Dafydd ar y gadair ac edrych arno. Meddai Rowland:
"Deio wyt ti, dwad?"
"le," meddai yntau.

Bu'r ddau yn cydweithio yn y felin lifio a'r stablau am tua blwyddyn, ond anesmwythai Rowland am ddychwelyd i'r mwynfeydd yn Shasta. Ymhen y mis, dilynodd Dafydd ef a mynd i le o'r enw Iron Mountain, Keswick, Shasta County. Cafodd waith gyda'i frawd yn y gwaith aur neu gopr.

Fodd bynnag, ymhen wythnos wedi iddo gyrraedd fe laddwyd Rowland mewn damwain. Roedd Dafydd Thomas mewn lle dieithr yn adnabod neb bron ond daeth ar draws un Cymro a weithiai yn y gwaith ac fe'i cynorthwyodd i wneud trefniadau i gladdu'r corff.

Parhaodd i weithio yn y gwaith a dod ymlaen a chael gwaith fel Smelterman. Bu gweithio fel Smelterman mewn gwaith copr yn Douglas, Arizona, am gyfnod hefyd. Yn 1906 dychwelodd i ffermio Cwmonnen gan briodi Elin oedd yn ferch Brynmelyn.

Tra yn yr Amerig enillodd wobr yn Eisteddfod Oakland am gyfansoddi penillion. Bu farw yn 1936.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý