Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Safle Ffynnon Beuno Ffynnon Beuno
Mawrth 2005
Ymddangosod llun, isod, o hen hysbyseb yn dangos potel o ddŵr Ffynnon Beuno yn y papur fis Mawrth. Sylwch ar yr enw 'Rhiwalis' - llygriad mae'n debyg o 'Rhiwlas'.
O dan y llythrennau breision TABLE WATER gellir gweld "From the well known kidney pacifying rock spring near Bala", ac o dan hynny, "St Beuno Table Water Co., Arenig St, Bala".

Un o haneswyr lleol pwysicaf ein hardal flynyddoedd yn ôl oedd J. Humphrey Lloyd, neu Peryddon. Ysgrifennodd ef erthygl sylweddol iawn ar ddiwydiannau coll ystad y Rhiwlas, ac fe'i cyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Blynyddol Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd.

Hysbyseb am ddŵr Ffynnon BeunoRhoddir cryn sylw i gynnwys pamffledyn Saesneg sydd yn disgrifio'r dŵr arbennig yma sy'n dyfynnu fod y dŵr wedi cael ei ddadansoddi i ddangos mor bur ydoedd.

Mae rhywfaint o amwysedd yn y disgrifiad fodd bynnag, gan ei fod mewn un paragraff yn sôn am: ''A pure soft natural Table water from the well known spring, Ffynnon Fownog Fach, near Bala" ac wedyn yn sôn am "The Rhiwalis and St Beuno Waters Office". Sylwch ar y lluosog 'dyfroedd', sy'n awgrymu fod dau ddŵr dan sylw, un o Fawnog Fach a'r llall o 'spring" a oedd yn cyflenwi dŵr i'r tap yn y pantri yn Rhiwlas.

Roedd yr erthygl hefyd yn cyhoeddi na fydd rhaid, byth eto, i bobl y Bala droi i ffynhonnau Droitwich a LIandrindod i wella llygaid pŵl gan fod ganddynt eu Pwll Siloam eu hunain yn agos adref.

Sylwer hefyd mai o'r "Onen" y gwerthid y dŵr, hen dafarn ar y Stryd Fawr, sydd erbyn heddiw wedi datblygu yn ganolfan yr Eglwys Gatholig.

***

Beth bynnag yw holl hanes Ffynnon Beuno dros y canrifoedd mae ei hanes ers mis Medi 1993 wedi bod o ddiddordeb i Cantref, y Gymdeithas Dreftadaeth a ddaeth i fod dechrau 1992.

Bellach mae'r gwaith o wella golwg y safle wedi dod idrefn, diolch i waith cymen y tirluniwr, Eilir yr Hendre gyda chymorth Aled Jones, Cadwst Mawr.

Gobeithio y gwnaiff pobl Penllyn daro heibio i weld y gwaith gorffenedig.

Ymhen ychydig amser gobeithio y ceir llechen wedi ei gosod yn y safle i nodi mai dyma oedd safle Ffynnon Beuno.


Cyfrannwch

John, yn wreiddiol o'r Bala
Erbyn diwedd y '70au roedd hen Ffynnon Beuno wedi cael ei lenwi gyda llanast a gwastraff adeiladwyr -(megis be alwn yn "flytipping" y dyddiau hyn).Roedd hyn hefyd tua'r adeg yr adeiladwyd ystad o fyngalos o'i amgylch (Mawnog Fach). Cafodd cwmni fy nhad (y diweddar Huw Rowlands) y contract o glirio'r ffynnon yn yr '80au cynnar, a'i ail lenwi gyda graean glân a fyddai'n hwylus gwacau os byddai angen rhywbryd yn y dyfodol. Pan datguddwyd y ffynnon cyn ei ail lenwi, rwy'n cofio yr oedd y dw^r yn grisial clir, ac yn ofnadwy o oer, er mai haf oedd hi ar y pryd. Mae lloriau, muriau a grisiau llechi y ffynnon dal yn gyfiawn, yno i'w hailddarganfod yn y dyfodol efallai?

Lleucu Edwards
Mae Bala yn le hyfryd oherwydd mae fy mam yn dod o fa 'na a mae fy nhad yn dod o Lanuwchlyn. Cofiwch ni at bawb yn Bala.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý