Yn ddiweddar, rhoddodd Meirion Edwards, Bryn Melyn ddatganiad arbennig ar organ Eglwys Sant Deiniol. Mae'n chware'r organ a'r piano ers trigain mlynedd a mwy, ac mae'n cofio sut y cychwynnodd pethau. "Ges i fy hyfforddi ar y piano gan Delynores Uwchllyn sef Greta Williams, a hynny cyn gadael Ysgol Gynradd y Llan. Un ar ddeg oed oeddwn yn dechrau ymddiddori mewn chwarae offeryn." Mae Meirion bellach yn 71 oed, ac mae'n dal i amaethu ei fferm ynghyd â chwarae'r organ ar hyd a lled y plwy. "Ddechreuais i chwarae'r organ yn gyhoeddus yng Nghapel Seion, Cynllwyd dan weinidogaeth y Parch Rhys Thomas. Organ draed oedd yna i ddechre wrth gwrs, ond mi nes i ddysgu fy hun i chwarae'r organ bîb, er i mi gael cynghorion gan Cedric Jones, bellach o Gwmni-Andante, yng Nghapel yr Annibynwyr, Y Bala.'' Rydw i yr un mor gyfforddus yn chwarae organ drydan hefyd." Er mai Annibynnwr ydi Meirion, mae'n aelod ac yn gyd-organydd yng Nghapel MC Soar, Cynllwyd. Mae hefyd wedi chwarae i bob enwad ond y Bedyddwyr - hap a damwain ydi hynny wrth gwrs. "Dwi'n hoff iawn o chwarae mewn eglwysi," meddai, "gan fod yno acwstig da. Mae pobol wedi gofyn i mi chwarae yn Eglwys Crist, Y Bala droeon, a hefyd yn Eglwys Bwlch y Cibau yn Llanfyllin."Darnau clasurol ydi ei hoff gerddoriaeth, ynghyd â'r emynau traddodiadol. "Ar gyfer y datganiad i nodi'r trigain mlynedd, mi nes i chwarae gweithiau gan Charles Gounod, J.S. Bach, Max Oesten yn ogystal â Toccata a phedair o Concerti Eidalaidd wedi eu trefnu ar gyfer yr organ gan Johann Gottfried Walther. Mae gan Meirion ddigon o organau i ymarfer arnynt ar ei fferm! "Mae un neu ddwy acw" ychwanegodd, "ac mi brynais i organ Americanaidd efo 17 o stops arni yn Lerpwl yn 1946 - mae swn da yn dal arni." Mae wedi chwarae organau amrywiol mewn achlysuron fel angladdau a phriodasau, yn enwedig yn yr Hen Gapel Llanuwchllyn. "Wnai fyth flino ar chwarae," meddai'n frwdfrydig. "Rydw i hyd yn oed wedi cael cyfle i chwarae dwy organ sydd efo tair allweddell yn Eglwys y Drindod, Llandudno a St. Paul's Craig y Don. Dwi'n cyfaddef i mi fod braidd yn nerfus yn chwarae'r rheiny!" Cerddoriaeth, amaethu a chrefydd fu diddordebau Meirion erioed. Bu'n aelod o Gymdeithas Organyddion Gogledd Cymru yn ogystal â Chôr Dyfrdwy a Chlwyd, a bu'n Ysgrifennydd eu Gwyl hefyd. Perfformiodd mewn llawer o bedwarawdau ac wythawdau mewn cyfarfodydd capel yn ogystal â bod yn unawdydd brwd. Mae ei ddiddordebau'n ymestyn y tu hwnt i hynny hefyd gan ei fod yn aelod o Gymdeithas Edward Llwyd, ac yn ymddiddori yng nghyfnod y Rhufeiniaid, gan fod ffordd Rufeinig yn mynd trwyi dir. Gobeithio hefyd y bydd y ffordd yn glir i Meirion chwarae ei organ am flynyddoedd i ddod. Menna Medi
|