Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Stephanie Wilkinson a Sarah Lawton (Owen gynt), o Gorwen Dosbarth 1985
Tachwedd 2009
Nos Sadwrn, 10 Hydref, cynhaliwyd aduniad ar gyfer y disgyblion a gychwynnodd yn Ysgol y Berwyn ym mis Medi 1985, bedair mlynedd ar hugain yn ôl.

Daeth dros drigain o gyn-ddisgyblion ynghyd i fwyty Plas-yn-Dre, ac er i amryw gyfaddef eu bod yn teimlo'n ddigon nerfus cyn dod allan (yn ofni na fyddent yn cofio pawb, neu na fyddai neb yn eu cofio nhw!), wedi cyrraedd buan yr ymlaciodd pawb a dechrau mwynhau'r achlysur.

Bu hen siarad, rhannu atgofion a dysgu o'r newydd am brofiadau'r naill a'r llall ers gadael yr ysgol.

Roedd nifer o'r criw yn dal i fyw yn ardaloedd Y Bala a Chorwen, ond eraill wedi teithio o rannau eraill o ogledd, canolbarth a de Cymru, yn ogystal ag o Loegr a thu hwnt.

Ymhlith y rhai a ddaeth o bell yr oedd James Cameron, Robin Gough ac Edwina Jones (o Lundain a de-ddwyrain Lloegr), Richard Lloyd Jones (o ardal Leeds), Emma Iller (o Ynys Lewis yn Yr Alban) a Tania Llewelyn Jones (o Dubai!!).

Hoffem ddiolch o galon i reolwyr a staff Plas-yn-Dre am y wledd a baratowyd ar ein cyfer ac am weini arnom drwy gydol y noson.

Ein diolch hefyd i Dilwyn Llwyd, cyn- ddisgybl a gychwynnodd yn yr ysgol ddwy flynedd o flaen criw'r aduniad, am ddarparu cerddoriaeth i ni, a hynny mor llwyddiannus nes ysgogi llawer i fynd ati i ddawnsio!

Gobeithio y gellir cynnal noson arall debyg yn y dyfodol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý