Dechreuwyd ar y fenter 2000 gyda'r bwriad o wneud gardd y gallai'r plant a'r cyhoedd ei mwynhau gyda mynediad iddi o'r ysgol ac o'r Llyfrgell. Mae mwyafrif mawr pobl Penllyn yn cofio'r llecyn sydd yn rhedeg ar hyd ymyl y Llyfrgell ac yn union gyferbyn â drws Ystafell y Prifathro. Mae'n rhedeg draw at y coridor traws arall oedd yn cysylltu ardal cefn y llwyfan heibio i un or Ystafelloedd Gwyddor Ty ac Ystafell M. Rhwng dau radiator strategol, ar ba rai y pwysai pawb oedd eisiau cael eu gweld!! Yn anffodus, ni chafwyd cydweithrediad llawn ac nid oes mynediad o'r Llyfrgell wedi'r cwbwl. Derbyniwyd syniadau gan blant o bob oed a defnyddiwyd hwy gan Guto Roberts o Gynwyd oedd yn astudio Lefel A ar y pryd. Yr oedd hyn yn rhan o'i waith prosiect at Lefel A mewn Celf. Hefyd fel rhan o'i waith Dylunio a Thechnoleg cynhyrchodd ffynnon ddwr yn ganolbwynt iddi. Ym mhen pella'r ardd o ystafell y Prifathro peintiodd Bethan Jones, Byrgoed bach, furlun. Yr oedd yn fwriad i ddefnyddio'r ardd fel ffocws i waith creadigol mewn Celf a Dylunio ac i roi cyfle i ddisgyblion gynllunio arteffactau sydd yn cyfoethogi amgylchedd yr ysgol. Bellach mae hyn yn digwydd ac fe welir cerfluniau mewn metel, teiliau crochenwaith, meinciau o goed soled i eistedd arnynt a hyn i gydymysg gwyrddlesni hyfryd. Gardd gelfyddyd yw hi yn ddiamau. Trowch i mewn iddi pan gewch gyfle; teimlwch fod gennych hawl! Derbyniwyd swm sylweddol o arian am fod y cynllun yn apelio at y Prince's Trust, ac am mai'r bwriad oedd creu rhywbeth i'r gymuned gyfan, nid yn unig ar gyfer plant yr ysgol. Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol y Berwyn a fu â rhan yn y prosiect yma.
|