Wedi arbrofi'n llwyddiannus gyda sioeau reslo Americanaidd yn 2006 a 2007, Noson Lawen fydd yn cloi adloniant y penwythnos ar y dydd Sul yn 2008.
Ymysg perfformwyr gŵyl 2008 mae Meic Stevens, Bryn Fôn a Daniel Lloyd a Mr Pinc, Sibrydion, Gwibdaith Hen Frân ac Underclass. Gwrandewch ar y clip ar y dde i wybod mwy. Am wybodaeth lawn am yr ŵyl, y trefniadau a lluniau o wyliau'r gorffennol, ewch i'w gwefan (linc ar y dde).
Mae'r trefnwyr yn gobeithio y daw hon yn un o brif wyliau Cymru ac maent yn credu bod ei llwyddiant yn deillio o'r ffaith ei bod yn canolbwyntio ar 'fandiau'r werin'. Cynhaliwyd Wa!Bala am y tro cyntaf yn 2005 ac oherwydd ei llwyddiant, penderfynodd ei threfnwyr ei gwneud yn ŵyl flynyddol yn y Bala bob mis Medi. Reslo yn 2007
Roedd Barri Griffiths, sy'n ymladd o dan yr enw 'Celtic Warrior', yn reslo yng ngŵyl Wa Bala 2007. Mae'r cawr 6'7" o Dremadog yn pwyso 21 stôn ac yn cael ei hyfforddi gan yr El Bandito ei hun! Gwrandewch ar Y Celtic Warrior yn sgwrsio â Lleol
|