Cynddisgybl o Ysgol Y Berwyn yw Alan Edwards sydd bellach yn ymgymryd â'r gwaith cyfrifol o ddilyn yn ôl traed enwogion megis Dr John Davies, Dr Gareth Edwards a Dr Geraint Evans. Mae Alan yn fab i Mr a Mrs Glyn Edwards, Cae Bach, brawd i Paul a Linda.Wrth edrych ymlaen at ei swydd newydd, mae gan Alan lawer i ddiolch i'r ardal lle'i ganwyd a'i magwyd. Cefndir Cymraeg a Chymreig sydd ganddo, a chyn gadael ei fro enedigol ym Meirionnydd, yr oedd wedi dysgu ymhyfrydu yn ei iaith a'i ddiwylliant. "Dyddiau da oedd y rheini yn y Bala," meddai. (Pan oedd yn y 6ed dosbarth, ef a gymerodd ran Y Brenin Ri yn "Nia Ben Aur".)
Gadawodd ei fro enedigol yn Meirionnydd, ac Ysgol Y Berwyn, Y Bala, lle gwnaed ef yn Brif Fachgen, a mynd i Brifysgol Cymru Aberystwyth. Yno astudiodd Hanes, Daearyddiaeth, a Drama yn ei flwyddyn gyntaf cyn parhau â'i astudiaethau mewn Daearyddiaeth.
Ni wastraffodd Alan amser o gwbl cyn ymaflyd ym mywyd cyffrous myfyriwr yn Aberystwyth. Yn ystod ei ail flwyddyn yn y coleg, penodwyd ef yn Swyddog Academaidd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth gyda'r bwriad o greu cyswllt rhwng y myfyrwyr a'u hadrannau. Cafodd y profiad, tra oedd yn y swydd hon i wneud yr hyn sydd mor bwysig iddo hyd heddiw, sef i roi clust parod i wrando ar gwynion a gofidiau ei gyd-fyfyrwyr. "Yn sicr," meddai, "bu fy ngwaith yn ystod y flwyddyn hon yn sail gadarn i adeiladu fy ngyrfa arni."
Cafodd Alan brofiad helaeth o gynorthwyo myfyrwyr hefyd pan adawodd Aber a mentro i'r Brifddinas, lle cafodd gynnig swydd gan Gymdeithas Tai Hafod. Mewn cyfnod o ychydig flynyddoedd llwyddodd i ennill cymhwyster ôl-radd mewn Tal a Chynllunio, i gynorthwyo'r di-gartref, ac i fod yn rheolwr llety yng ngholeg UWIC yng Nghaerdydd.
Ni fu'n hir lawn cyn i'r hiraeth am Aberystwyth ei lethu, ac ym Medi y llynedd cafodd swydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Cymorth i Fyfyrwyr. Fel rhan o'i swydd, daeth yn warden ar nifer o neuaddau preswyl yn cynnwys Pentref Jane Morgan, Brynderw, Llanbadarn, Penbryn a'r Neuaddau ger y môr.
Gyda'r neuaddau hyn i gyd o dan ei adain, pam dymuno ychwanegu Pantycelyn, a'r holl gyfrifoldeb sydd ynghlwm wrthi, at ei restr? "Cyfnod cofiadwy lawn i mi oedd fy nghyfnod ym Mhantycelyn fel myfyriwr", meddai, ac un o'm prif obeithion yw rhoi'r un cyfle a gefais i i fyfyrwyr heddiw."
"Mae'r awyrgylch a'r gymdeithas glos sydd yno yn unigryw, ac mae'n sylfaen ddelfrydoli Gymry Cymraeg neu ddysgwyr sy'n dymuno byw mewn awyrgylch fel hon." Ond er cymaint mae'n ysu am ddechrau ar ei sialens newydd o greu awyrgylch hapus, cyfeillgara diogel i fyfyrwyr, mae ambell beth yn ei boeni. Brawychus braidd yw'r syniad o fod yngymydog am y tro cyntaf i 260 o bobl ifanc bywiog!
Pob hwyl iddo ar ei waith.