Mae pawb yn sôn y daw
hi'n braf unwaith aiff y plant yn ôl i'r
ysgol.
Dyde ni ddim wedi bod yn rhai am fynd
ar wyliau yn bell iawn ond mi aethom ni
i'r Friog un haf tua pedwardeg mlynedd yn ôl erbyn hyn ac yno cyfarfod a'r dyn
oedd yn byw drws nesaf i'm mrawd yng
nghyfraith, a fo glywais i'n sôn am 'Lanw Coch Awst', a'i syniad o oedd y byddai'r
tywydd yn siwr o wella ar ôl y llanw
hwnnw.
Tybed a oes gan rhywun syniad
pryd mae'r llanw hwnnw'n digwydd?
Sioe Sir
Ta waeth am hynny mae yna brysurdeb mawr at y Sioe Sir yma unwaith eto; ac mae sôn y bydd hi yma eto flwyddyn
nesaf a'r Steddfod hefyd.
Dydy Lanfor yn
lle pwysig - doedd fawr o ryfedd iddo
gael ei alw yn Llanfawr gan ein cyndadau,
roedd y rheini yn gweld o bell y dydd yn
dod!
Ta waeth am chwythu fy nghorn am y
prif bentref, mae rhai yn cymysgu am
eu hardal yn achos efail Penrhiwdwrch.
Does ond tafliad carreg o'r Werddon i fan
honno. (Werddon Llanuwchllyn ac nid yr
Ynys Werdd sy gen i).
Roedd yno groeso
arbennig i'r Postmon yn Y Werddon,
paned ac ŵy wedi ei ferwi, a'r rheini'n free-range.
Ond gresyn na fase Penri wedi gwrando mwy ar y seiade difyr a gaem yno.
Mae'n siŵr fod ei dad wedi bod wrth ryw orchwyl ym Mhenrhiwdwrch.
Roedd o yn meddwl mai Efail Penrhiwdwrch
oedd y llun yn Arddangosfa H.W Lloyd
yn y Capel Bach. Efail Llanfor oedd hi!
Gallwn weld wal y fynwent.
Cefais air gan Miss Roberts, Pantsaer (Madge Pantsaer) a Gwen y Bryn (Mrs Roberts Foleufan), hwythau'n cadarnhau fy nhybiaeth, ac roedd John Tynant, neu John Bach, neu John y Postman, yn bendant mai gefail Llanfor oedd yn y llun.
Dyma lun o Efail Llanfor tua 1890 sydd yn cel ei farchnata gan Archifdy Dolgellau ac mae'n debyg mai Huw Edwards y Gof sydd y tu allan ac mai ceffyl y Rhiwlas a'r wagnar yn ei het galed sydd ynddo fo.
Llongyfarchiadau
A gadael miri Penrhiwdwrch ar ôl, rhaid
llongyfarch pawb a enillodd yn y Brifwyl
yng Nghaerdydd, ac yn enwedig Mair Penri ar ennill Medal Syr T.H. Parry Williams.
Llongyfarchiadau, Mair, oddi
wrth bawb sy'n darllen y golofn yma.
Oes, mae gen i le i ddiolch, fel dywedodd
Mair am Penri, "Dydi o ddim yn cwyno!"
Mae hi 'run fath yma pan fydda i yn trio
rhoi'r llith yma at ei gilydd - Catherine
sydd yn gorfod clirio ar fy ôl!
Cyn inni adael sŵn yn eingion dyma ichwi
lun o blant y Llan yn eistedd ar yr Haearn
Cylchu tu allan i'r Efail yma.
Roedd o'n troi rownd a doedd dim rhaid aros tan
y Ffair yn y Green i gael 'Merry-go-
Round'.
Ond gresyn bod y pedwar hogyn
wedi ein gadael
bellach. (Yn sefyll
y tu ôl mae Tom
Tymawr, a fu'n
Garcharor Rhyfel
yn yr Almaen am
bum mlynedd.
Ar y chwith mae
John Penucha, yn
y canol Arthur
Penucha, ac ar
y dde, Gwyn
Smithies.
le,
roedd y Peiriant
Cylchu yn fan
cyfarfod i blant
y Llan dros genedlaethau a
diolch i Gwyneth Penucha am gael menthyg y llun.
Flying saucers
Mae'n debyg pan ddarllenwch y darn nesaf y byddwch yn siŵr o ddweud fy mod yn dechre ffwndro.
Byddaf yn meddwl hynny amdanaf fy hun weithiau, 'n enwedig pan fydd y plant yma
yn dweud fy mod yn ailadrodd pethau; ond
y dydd o'r blaen mi es i
a Catherine i edrych am gyfnither yng Nghraig y Fron, y Bala.
Pwy ydy honno, meddwch chi - wel y Mair y cyfeirir ati yn y cwpl Eric a Mair Evans oedd yn cadw siop Bradford House, yn gwerthu setiau teledu, ac offer trydanol o bob math.
Roeddem yn eistedd yn eu hystafell haul ac yn edrych ar yr olygfa fendigedig
o dref y Bala.
Fel roedd hi yn nosi a goleuadau'r strydoedd yn taslo drwy'r ffenestri gwydr dyma fi'n codi'n sydyn.
"Be sydd arnta ti?" medde Mair. "Flying saucers," medde finne, a dyne lle roedd y goleuadau i'w gweld yn symud fel roeddwn i'n symud a'u gweld ar y gorwel tros y Wenallt a Tŷ Mawr, Rhosygwalia, a'u siâp fel dysglau a'u lliw fel oren o liw y lampau.
I mi dyma'r ateb i'r 'flying-
saucers' sydd wedi bod yn ymddangos ar y teledu a phapurau dyddiol.
Tybed a oes unrhyw un arall o'r un feddwl? le, dydw i ddim yn ffwndro y tro 'ma, a dim sôn am ddynion bach 'chwaith!
Ron Lloyd