Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Trip Sasiwn Plant Ysgol Sul Cefnddwysarn Sasiwn Plant y Bala 1938
Ionawr 2003
Atgofion Ifor Roberts, Tyddyn Inco gynt o drip Sasiwn Plant Ysgol Sul Cefnddwysarn.

Glanhau siediau'r gwartheg oedd fy ngorchwyl i y dydd Gwener hwnnw ym Mehefin tua 1938. Amser troi y stoc allan ar ôl gaeaf hir, a'r buchod llaeth erbyn hyn mewn porfa ffrom. Roedd fy nghyfaill, Meirion Jones y wagner, yn llyfnu priddwal gyda'r wedd.

Gwyddwn fod Bob Lloyd y bos yn cymryd napyn ar ôl cinio fel arfer. Yn y man es i wneud mân orchwylion hyd y buarth. Roedd carthion y buchod yn ffrom wrth fynd allan o'r beudy ar ôl eu godro, a rhaid oedd brwsio hwnnw i gornel er cadw'r lle yn gymharol lân. Gyda hynny y daeth "Miss Davies y llaeth" fel y galwem ni hi heibio'r fferm. Swyddog gyda'r Weinyddiaeth oedd hi, i gadw golwg ar y beudai ac i gynghori ar lanweithdra:
"A cofiwch," meddai wrthyf, fod yn rhaid i'r tu allan fod yn lân hefyd!"
"Mae Mr Lloyd yn y ty, meddwn wrthi.
"Does gennyf ddim amser i alw heddiw, mi ddof yma eto, mae gennyf amryw o ffermydd yn y Sarnau isio sylw." Ac i ffwrdd â hi.

Un rhinwedd yn y lle oedd amser. Pob pryd bwyd yn ei amser i'r funud. Os byddai'r gweddoedd yn llafurio yn y caeau byddai Dwysan yn dod â'n prydau inni trwy bob tywydd, i'r funud.

Galw ar y buchod i odro am ugain munud i bump, yna noswylio am chwech o'r gloch. Ond y pnawn yma dyma floedd, "Bowch" dros y lle am ugain munud i dri y prynhawn. "Helo," roeddwn wrthyf fy hun. "Mae'n rhaid fod parti Tairfelin yn cadw cyngerdd yn rhywle neu mae 'na Steddfod yn go bell". Dyma floedd arall, "Bowch" tros y lle a dyma'r cwn oedd yn cysgu ar riniog y drws yn bwrw i yddfau ei gilydd i baffio fel pe tae'r byd ar ben. Yna aeth y ddau i fyny'r llechwedd i chwilio am y fuches laeth.

Cael te, ac ati i odro; tri ohonom pob un â'u geunog i odro'r mymryn llaeth, ac allan â'r fuches eto gan adael rhagor o'u carthion ar y concrit. Doedd gennyf i ddim syniad beth oedd yn mynd ymlaen.

Di-sgwrs odiaeth oedd "Lloyd" gartref ar y buarth, ond mi roeddwn i wedi cael harc yn y Llan y noswaith gynt fod Cefnddwysarn wedi cael menthyg wagen gan Mr Griff Williams, Penisa'r Llan i fynd â phlant Ysgol Sul y Cefn i Sasiwn y Plant y Bala.

Gyda hynny roedd swn siarad mawr yng ngwaelod y buarth, John Edwards Tyn Garreg, Glanrafon, plethwr ceffylau dan gamp ac Ed Davies wagner i Tomi Jones y glo, Corwen, dyn ceffylau eto, pawb yn fel "Ned bach y glo".

Y ddau wedi dod i Bethel ar y bws ac yna ei cherdded hi am y Derwgoed, a dyma Lloyd allan o'r ty i'w croesawu. Os oedd hi'n ddistaw cynt, wel sôn am siarad. Yna paned ac wedyn i'r Granar. Un â bocs carbod yn llawn o garpie, brass, tiniau, a llu o fân bethau. Gan y llall roedd ei gynhyrchion ef yn cynnwys rosettes, rhubanau o bob lliw a llun, a llu o fan bethau redi med a serenod pres, llachar.

Y gorchwyl a gefais i oedd tynnu llwch a duo'r tresi. Roedd Lloyd ar y fainc yn cadw sgwrs, a bron o'r golwg mewn mwg, a hynny hyd hanner nos. Gyda'r wawr lwyd drannoeth roedd y ddau blethwr ar y buarth yn barod i boeri a rhwbio'r lledrau.

Trefnu ceffylau oedd hi i fod wedyn. Ceffyl y Derwgoed i fod yn siafftiau'r wagen. Meredydd Jones, Cae Coryn yn rhoi ceffyl canol, ceffyl du pedair oed 18 llaw o uchder ac yn ddiniwed fel dafad. John Hughes y Cynlas yn rhoi caseg i fod ar y blaen. Roedd bachgen o Stiniog wedi dod i weithio yno a doedd o ddim wedi astudio geograffi y Cefn, a dros awr ar ôl colli ei ffordd, medde fo!

A dyma hi, caseg yn edrych yn dda, i'r dim medde pawb a'r ddau blethwr erbyn hyn yn eiddgar am gael pen ar y trimio. Dyna ddechre rhoi'r tresi mewn trefn. Taro tresi blaen ar gaseg y Cynlas. Ond "Wow," teimlodd honno'r tinbren yn mynd ar ei chrwper a dyma hi'n bwrw cic gyda'i ddwy droed ôl gan daro Elis Elis yr Hendre yn ei frest. Doedd o ddim llawer gwaeth yn gorfforol gan iddo fynd wysg ei gefn i'r chwdrel. Aed ag o i'r ty i'w lanhau; doedd pethau ddim llawer gwaeth iddo.

Roedd caseg y Cynlas wedi rhoi dampar ar bob peth erbyn hyn. Rhaid oedd i Lloyd ei gwamio hi am y Cefn i siarsio'r plant i fyhafio. Roedd tipyn bach o sleit-delay ac yna cyrhaeddodd yn ôl yn ei chwys. Roedd ei drywydd yn amlwg, croesi Caebanc, Ffridd Ty Llwyd, Cefnbyrlas a mwg baco i'w arogli yn gryf yn yr awyr.

Yna yn ei ôl i'r bwtri gan lenwi ei fol â llaeth enwyn, ac ôl hwnnw yn amlwg ar ei wenau. Wedi cynnal pwyllgor brys rhaid oedd rhoi'r gaseg yn y siafftiau - "Iddi ddysgu byhafio" medd rhywun.

Pwyllgor brys yn y Cefn wedyn. Gyda llaw doedd Jennie Bond heb gyrraedd bryd hynny! Rhaid oedd i ddau aelod o ddosbarth canol yr Ysgol Sul fod o boptu'r wagen i daro clocsen o flaen yr olwynion ôl, os âi y ceffylau yn rhy gyflym. Yna tri o'r dynion trymaf o'r dosbarth hyn i gerdded y tu ôl yn barod i lusgo fel ecstra brêc, colli sodlau neu beidio. Yna rhieni'r plant i gerdded o'r tu ôl, a'r rhain yn debycach i gynhebrwng na Sasiwn Plant. A ffwrdd â ni am y Bala a'r plant yn canu "Plant bach lesu Grist ydym ni bob un".

Wrth Ty'n Pren roedd Band y Dref yn ein croesawu. Ar Bont Tryweryn roedd llu o weision ffermydd a meibion yno yn rhoi eu barn ar y plethu a'r trimins. Mynd trwy'r dref, dangos cofgolofn Tom Ellis a Thomas Charles yna ar dro i lawnt y Coleg i gael paned a gwrando mwy ar siarad nag ar ganu.

Yna ail-gerio'r ceffylau a llwytho'r plant i'w throi am adref. Y modern grîs' (toddion cig moch) wedi sychu yn yr olwynion erbyn hyn a phob un o'r rheini a gwahanol sgrech. Y tynnu fyny yn mynd yn galed ar yr elltydd i'r Cefn a mwy o gwyno nag o ganu yn dod o gyfeiriad y seti caled.

Cyrraedd y Cefn a'r ddau drimiwr wedi hen flino disgwyl a'u catiau bron wedi llosgi allan. Dadlwytho a dad-gerio y ceffylau oedd yn falch erbyn hyn o gael mynd i ymdreiglo. Finnau'n falch fod popeth drosodd. Do, bu bron iddi fod yn ddiwrnod angeuol. Ni fu llawer o sôn am y trip wedyn, and mi roeddwn i yno, ac rwyf yn cofio'r cwbwl.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý