Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Elfyn Pritchard yn ennill Tlws Mary Vaughan Jones Tlws arall i Elfyn
Rhagfyr 2003
Mewn seremoni yn ystod Cynhadledd Llenyddiaeth Plant yng Ngwesty'r Metropole yn Llandrindod cyflwynwyd Tlws Mary Vaughan Jones i Elfyn Pritchard o'r Sarnau am gyfraniad gwerthfawr iawn i lenyddiaeth plant.

Cyflwynir y Tlws bob tair blynedd am gyfraniad unigolyn i lenyddiaeth plant ein gwlad.

Mae'r Tlws yn coffau un a roddodd gyfraniad sylweddol iawn i lenyddiaeth plant. Gweddus iawn oedd hi eleni i Elfyn dderbyn yr anrhydedd yma a hynny yn sgil ei lwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen.

Dros y blynyddoedd mae Elfyn Pritchard wedi cyfrannu yn helaeth i lenyddiaeth plant wrth ysgrifennu nofelau, straeon byrion ac erthyglau yn ymwneud ag ysgrifennu. Mae hefyd yn addysgwr ac i athrawon Cymru bu yn aelod o'r tîm a ddaeth â chynllun iaith bywiog a gwerthfawr i'r ysgolion - Cynllun y Porth.

Ef hefyd sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am ddiweddaru'r Cynllun yma yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Talwyd teyrnged haeddiannol iawn i gyfraniad Elfyn gan Lionel Madden, Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, cyn cyflwyno'r Tlws hynod hardd iddo. Mae'r Tlws ar ffurf llyfr agored o bren derw golau. Ar y llyfr gwelir plentyn yn lled orwedd yn gwylio rhai o gymeriadau llyfrau Mary Vaughan Jones, ac yn eu mysg mae yr enwog Sali Mali.

Mae'r cymeriadau wedi eu gwneud o arian pur gan y gof enwog o Dregaron - Rhiannon.

Yn sicr bydd Elfyn Pritchard yn trysori'r anrhydedd ddiweddaraf a ddaeth i'w ran a llongyfarchiadau mawr iddo.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý