Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Baner Cymru Cymraeg yn Gyntaf
27 Chwefror 2004
Mae'n bleser gan Menter Iaith Gwynedd ac Antur Penllyn dynnu eich sylw at ymgyrch gyffrous fydd yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi 2004 ac yn para am wythnos gyfan.

Ymgyrch yw hi i berswadio'r cyhoedd i ddefnyddio mwy o'r iaith Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, gan eu hannog i ddefnyddio "Cymraeg yn Gyntaf!"

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mewn partneriaeth â Mentrau Iaith Cymru ac Antur Penllyn, yn targedu nifer o ardaloedd penodol yng Nghymru fel rhan o'r ymgyrch, ac mae'r Bala yn un ohonynt. Bydd y Bwrdd yn darparu nifer o adnoddau "Cymraeg yn Gyntaf" am ddim gan gynnwys posteri, sticeri, baneri, balŵns, arwyddion cownter a beiros.

Hefyd, i dynnu cymaint o sylw ag sy'n bosibl, byddwn ni'n hysbysebu ar fysus lleol, yn trefnu digwyddiadau lleol ac eitemau o ddiddordeb yn y wasg a'r cyfryngau. Rydyn ni'n gobeithio creu tipyn o fwrlwm yn ystod yr wythnos!

Eisoes, mae gweithgor lleol wedi ei sefydlu i drefnu'r ymgyrch, a gyda'ch cefnogaeth chi, gallwn edrych ymlaen at ymgyrch gyffrous fydd yn arwain at gynyddu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn Y Bala a'r ardal.

Digwyddiadau
Cynhelir Gig Gŵyl Ddewi nos Wener 27ain o Chwefror yng Nghlwb Golff y Bala i ddechrau'r wythnos gyffrous a bydd Sara Mai a'r Moniars a Bysedd Melys yn perfformio yno. Yn ogystal, bydd Sali Mali yn mynd o amgylch cylchoedd Ti a Fi yn ystod yr wythnos gyntaf yn mis Mawrth gan gynnal sesiynau crefft, stori a chan gyda'r plant.

Cynhelir cystadleuaeth Gŵyl Ddewi lle rhoddir gwobr o £100 i'r Ffenestr Siop sydd wedi ei haddurno orau ar gyfer dathlu Gŵyl Ddewi. Bydd gornest fawr rhwng Clybiau Ffermwyr Ifanc Penllyn yn yr Eisteddfod Dafarn yn Plas Coch.

Bydd Cymdeithas y Dysgwyr (CYD) yn cynnal noson o gêmau iaith yn y Llew Gwyn nos Iau, 4ydd o Fawrth.Digwyddiadau eraill a gynhelir yn ystod yr wythnos honno ac sydd yn anghysylltiedig ag Antur Penllyn yw Eisteddfod yr Annibynwyr ac Eisteddfod Cylch yr Urdd. Hefyd, bydd Theatr Bara Caws yn dod i Ysgol y Berwyn. Digwyddiadau ydynt sy'n hyrwyddo'r diwylliant Cymraeg, ac sy'n arwydd o'r cyfoeth o ddiwylliant sydd yn yr ardal.

Ond nid ymgyrch yw hon sydd am i bobl ddechrau pob sgwrs yn y Gymraeg yn ystod yr wythnos honno'n unig, ond yn hytrach ymgyrch i sbarduno pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn gyntaf o hyd.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach ynglŷn â'r ymgyrch, cysylltwch ag Awel Mehefin Edwards (Swyddog Iaith Antur Penllyn) ar 01678 520920.

Wythnos 'Cymraeg yn Gyntaf' 1 7 Mawrth 2004-02-27


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý