Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Rhydian yn derbyn ei wobr yn Iwerddon Ennill Gwobr yn Dun Laoghaire
Mai 2005
Dros wyliau'r Pasg bu Rhydian Prys Jones, Rhiwlas, draw yn Iwerddon yn derbyn gwobr ar ôl iddo ddod i'r brig mewn cystadleuaeth ysgrifennu cerddi.
Enw'r gystadleuaeth ydy Feile Filiochta, Cystadleuaeth Farddoniaeth Ryngwladol.

Llongyfarchiadau mawr i Rhydian ar ei gamp yn ennill y wobr gyntaf a dyfarniad arbennig y Feile Filiochta am ei gerdd 'Ysgol'.

Y gerdd fuddugol:

Ysgol
Rhifau fel defaid ar hyd y lle
Adio a thynnu a dwn i ddim be'
Symiau yn sgrechian, ffracsiynau'n un rhes,
Degolion a chanran a phunnoedd a phres.
Rhaid rhannu yn hir
Does gen i ddim syniad
Am faths deud y gwir.

Brawddegau yn llifo ar bapur gwyn
Cynghanedd yn clecian ac odlau yn dynn,
Berfau yn dripian fel diferion dŵr,
Ansoddair, rhagenw a threiglo siŵr.
Atalnod yn fa'ma.
Gofynnod fan draw?
Idiomau fel cyrins,
Mae'n iaith ar y naw.

A dyna ichi flas ar fy niwrnod i
Yn gaeth yn yr ysgol tan wedi tri.

Cynhelir y gystadleuaeth dan nawdd Llyfrgell Dun Laoghaire, Dulyn, ac mae gwobr i gerddi Cymraeg a chwech arall i gerddi mewn chwe iaith Ewropeaidd arall. Y llynedd daeth y wobr gyntaf a'r ail i ddisgyblion o Ysgol y Berwyn ac fe gyhoeddwyd eu cerddi yn Pethe Penllyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý