Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Dewi T Davies Cyn ddisgybl yn Brifathro
Estynnwn longyfarchiadau gwresog i Mr Dewi Thomas Davies ar ei benodiad yn Brifathro Ysgol y Berwyn.
Hyfryd yw gweld un o fechgyn yr ardal yn cael y cyfrifoldeb mawr yma. Magwyd Dewi yn Nantycyrtiau, Cwmtirmynach, a chafodd fod yn aelod o Ysgol Ramadeg y Bechgyn am gyfnod cyn i Ysgol y Berwyn agor yn 1964.

Bu'n amlwg mewn cynyrchiadau drama tra yn ddisgybl gan chwarae rhan Macbeth ar un achlysur cofiadwy iawn.

Aeth ymlaen i Goleg Prifysgol Gogledd Cynru, Bangor, a graddio yn y Gymraeg ond daeth i sylw, hefyd, ym myd y bêl hirgron.

Bu'n athro am nifer o flynyddoedd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, cyn cael ei ddewis i olynu'r diweddar Trefor Edwards fel Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol y Berwyn yn 1984.

Ers mis Mai y llynedd bu'n ysgwyddo gwaith y Prifathro yn absenoldeb Mr Geraint Owain.

Dymunwn yn dda iawn iddo ef wrth arwain Ysgol y Berwyn i'r dyfodol gan obeithio y gallwn fel rhieni, cyn-ddisgyblion, athrawon a phlant ddangos ein cefnogaeth iddo a'n hymddiriedaeth ynddo wrth y gwaith hollol allweddol sydd ganddo i'w gyflawni mewn cyfnod na fu ei debyg o'r blaen yn addysgol a chymdeithasol yn ein bro.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý