Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Archifydd Meirionnydd, Merfyn Wyn Tomos, yn dangos y cleddyf yn yr archifdy. Cleddyf, cardiau sigaréts a Bob Tai'r Felin
Tachwedd 2005
Er mor anodd credu hynny, oes mae yna gysylltiad rhwng y tri uchod.
Ond gadewch i ni ddechrau yn y dechrau. Pan agorodd yr Archifdy newydd yn Nolgellau fis Medi, daeth gŵr yno o Ynyslas. Kenneth Scattergood oedd y gŵr hwnnw, a soniodd bod ei daid, Arthur Scattergood, wedi bod yn chauffeur i deulu Lee oedd yn berchen ar Fryn Bannon ger Llandderfel rhwng tua 1900-1915.

Dywedodd hefyd bod ei daid wedi dod o hyd i gleddyf ar y Garth Goch, Rhosygwaliau, a'i fod wedi ei dynnu o'r graig ei hun yno. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach daeth Mr Scattergood yn ôl i'r Archifdy a'r cleddyf gydag o. Fel y gwelwch, mae'n gleddyf sylweddol iawn o ran maint, gyda charn o bren ac addurn ar ei flaen. Mae'n amlwg bod y darn oedd yn amddiffyn y llaw wedi torri ac os cymrwn ni mai 'rhwd yw ei anrhydedd', mae'n anrhydeddus iawn.

O chwilio mwy i hanes Arthur Scattergood a theulu Bryn Bannon, gwelwyd bod Mr Scattergood yn treulio'r gaeaf yn Ivy House, Stryd Fawr, Y Bala ac yna mae'n debyg ei fod yn treulio'r haf ym Mryn Bannon efo'r teulu.

Teulu o ardal Aylesbury oedd y Lees ac mae casgliad o'u papurau yn yr Archifdy yn Nolgellau eisoes. Roedd ganddynt ddwy ferch, Violet ac Elizabeth. Daeth Elizabeth i amlygrwydd fel actores a chantores a bu'n defnyddio amryw o enwau gwahanol o Philadelphia Du Lake i Lisa D'Esterre. Fel Lisa D'Esterre yr ymddangosodd hi mewn ffilm dan y teitl Knight Without Armour (wedi colli ei gleddyf tybed!) gydag enwogion fel Marlene Dietrich. Ond dan enw nes at ei henw gwreiddiol y cyhoeddodd hi lyfr Owen's Story Book, cyfres o storïau a ysgrifennodd i'w mab, Owen.

Ond beth am y cardiau sigaréts a Bob Tai'r Felin medde chi? Wel fel actores yn yr 1930au fe ryddhawyd cerdyn sigarét gyda llun Lisa D'Esterre arno ac ym 1948 cynhaliwyd cyngerdd mawreddog yn Neuadd Buddug, Y Bala -gyda Lisa Lee, fel y galwai ei hun erbyn hynny, a Bob Tai'r Felin yn cymryd rhan.

Faint o'r darllenwyr sydd ag atgofion am y teulu hwn tybed? Wyddai rhywun am y cleddyf a ddaeth i'r golwg ar y Garth Goch neu tybed a oes 'na elfen o chwedl yn yr hanes a bod Mr Scattergood wedi cymryd ei enw cyntaf ormod o ddifri!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý