Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Logo Senedd 04 Cyfarfod 'hanesyddol'
Rhagfyr 05/Ionawr 06
Nos Iau, 3 Tachwedd, bu cyfarfod arbennig yn Siambr Cyngor Y Bala rhwng aelodau o gynghorau Penllyn a dirprwyaeth o 9 yn cynrychioli mudiad Senedd 04.
Mae Penllyn yn cynnwys plwyfi Y Bala, Llanuwchllyn, Llangywer, Llandderfel a Llanycil.

Mae hwn yn fudiad gwirfoddol, di-blaid, wedi ei sefydlu yn 2004 i goffáu chwe chan mlwyddiant Senedd Machynlleth. Ei amcan yw ailagor y Senedd fel fforwm ddemocrataidd barhaol a fydd yn dylanwadu ar lywodraeth yng Nghymru. Mae'n credu y gellir gwneud hyn yn gyfansoddiadol ar sail y cynghorau cymuned. Y mae bellach wedi anfon amlinelliad byr o'i syniadau at bob cyngor bro a thref yng Nghymru ac wedi gwahodd eu hymateb cychwynnol.

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Dilwyn Jones, a chyflwynwyd papur trafod gan y Parchedig Tegid Roberts, cadeirydd Senedd '04. Gofynnwyd nifer o gwestiynau pwrpasol, ac yr oedd teimlad o'r ddeutu iddi fod yn drafodaeth fuddiol. Gall y cynghorwyr a oedd yn bresennol yn awr adrodd yn ôl wrth eu cynghorau; gobeithia mudiad Senedd '04 y bydd hyn yn estyn y drafodaeth ac yn arwain yn y pendraw at wireddu ei amcan o ailagor Senedd Glyndwr yn ei safle hanesyddol.

Yr oedd y ddirprwyaeth yn gallu adrodd am ymateb calonogol iawn i'r llythyr, o drefi ac ardaloedd amrywiol drwy hyd a lled Cymru. Ymhlith y cynghorau sydd wedi mynegi diddordeb rhestrwyd: Rhuthun, Caergybi, Hwlffordd, Porthmadog, Caerfyrddin, Llanbradach, Trefyclo, Glyn Nedd, Caernarfon, Dinbych-y-pysgod, Pwllheli, Llanberis ynghyd â nifer o rai eraill. Mae pum cyngor yng ngogledd Meirionnydd eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol sef Penrhyndeudraeth, Llanfrothen, Trawsfynydd, Llanbedr a Llanelltyd. Os daw plwyfi Penllyn, ac un neu ddau arall, mae bron yn sicr y bydd cynrychiolaeth i Feirionnydd yn Senedd Machynlleth pan ddaw dydd ei hagor.

Mae Senedd '04 hefyd am bwysleisio, pan fydd yn sôn am Feirionnydd fel etholaeth gyfer y Senedd, ei fod yn golygu'r Feirionnydd hanesyddol a thraddodiadol, yn cynnwys Edeirnion.

Penderfyniad Senedd '04 yw symud ymlaen, os oes modd yn y byd, drwy ddealltwriaeth a'r corff Un Llais Cymru, sydd bellach yn cynrychioli mwyafrif mawr y cynghorau bro a thref. Ysgrifennwyd yn ffurfiol at brif weithredwr Un Llais yn gofyn dau beth: (a) a yw Un Llais yn gweld sail i drafodaeth yn syniadau Senedd '04? (b) a fyddai Un Llais yn ystyried sefydlu gweithgor ar y cyd gyda Senedd '04 i lunio cynigion manwl i'w gosod gerbron yr holl gynghorau? Yr hyn yr oedd Senedd '04 yn ei ofyn yn arbennig gan y cynghorwyr oedd iddynt arfer eu dylanwad o fewn Un Llais i ofalu fod y drafodaeth hon yn parhau ac yn ymestyn.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý