Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Mwynhau ar y daith Taith Gerdded
Mehefin 2010
Ar nos Lun, 10 o Fai, cynhaliwyd y Daith Gerdded flynyddol.

Mae hon yn daith i garedigion Pethe Penllyn a balch oeddem o weld y ffyddloniaid wedi ymgynnull eto eleni, a hynny ar Wern Llandrillo.

Elsbeth Jones oedd y trefnydd ac yn wir fe gafwyd taith hynod ddiddorol.

Cychwyn o'r Wern a dilyn Heol Maengwynedd a thrwy'r pentre.

Rhyfeddod pawb fod Llandrillo yn lle mor fawr! Ymlaen heibio Rhos Helyg, Rhos Ucha a Thy'n Coed a throi am Cadwst Mawr.

Yno caswom wledd i'r llygad gweld hen furddun, yr hynaf ym mhlwy Llandrillo cred rhai, yn cael ei adnewyddu.

Dotio at y trawstiau hynafol a'r gofal sydd yn cael ei gymryd o'r hen adeilad i'w droi yn annedd cysurus unwaith yn rhagor.

Yna heibio Cadwst Bach gan ddringo at Blaendre Isa ac ar i waered wedyn heibio Garthiaen ac yn ôl i'r Llan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý