Llwyddodd dau dîm o'r ardal i ennill yr hawl i gynrychioli Gogledd Cymru yn y Stadiwm wedi diwrnod o gystadlu brwd ym Mae Colwyn. Daeth y tîm dan 13eg a'r tîm dan 19 yn ail yn y gystadleuaeth honno ac felly roedd hen edrych ymlaen at gael chwarae yn y Stadiwm Cenedlaethol. Rygbi saith bob ochr oedd y gêm, ond nid oedd gan y merched hawl i daclo fer arfer. Roedd rhaid i'r rhai ieuengaf dynnu tagiau arbennig oddi ar eu gwrthwynebwyr i'w stopio, tra roedd cyffyrddiad yn cyfrif fel tacl i'r rhai hynaf. Gwnaeth y ddau dîm gyfrif da iawn ohonynt eu hunain, y tîm ieuengaf yn arbennig felly gan iddynt lwyddo i gyrraedd y rownd gyn-derfynol a rhoi gêm galed iawn i dîm Ysgol Syr Huw Owen yn y rownd honno. Bu'n rhaid cael amser ychwanegol a'r cais euraidd' aeth â hi. Daeth Steve Hansen, rheolwr Cymru, i longyfarch y timau buddugol ac roedd cyfle i bawb gael ei lofnod hefyd. Llongyfarchiadau i bawb fu ar y daith. Yn sicr bydd yn rhywbeth i'w ddweud wrth eich wyrion a'ch gor-wyrion!
|