Mae hi ar hyn o bryd ym mynyddoedd Kashmir lle, yn ôl Elin, byddant yn trin tua 100 o gleifion mewn diwrnod. Oherwydd fod llawer o'r boblogaeth yn byw mewn pebyll, golyga fod y tywydd oer a'r eira sydd newydd gyrraedd yn achosi llawer iawn o broblemau i oedolion a phlant.
Dywed fod pawb rydych chi'n siarad â nhw wedi colli rhywun, ond mae'r bobl yn wydn iawn ac yn ymdopi'n wyrthiol gydag effeithiau'r ddaeargryn.
Cyn y Nadolig, daeth 1,300 0 blant i'r clinig i gael eu brechu rhag y frech goch. Diolch am rai fel Elin sy'n barod i fynd allan i wledydd lle mae cymaint o ddioddef ac angen am help arbenigol.
Mae teulu ac ardalwyr ag edmygedd mawr o'r gwaith mae hi'n ei gyflawni. Edrychwn ymlaen at dy gael di adre, Elin.
|