Y rheswm dros hyn? Wel mi fuon yn cerdded taith noddedig o'r Bala i Lanfihangel y pennant i godi arian at uned gancr Ysbyty Glan Clwyd ac at Goleg y Bala. Cychwynnwyd yn gynnar bore dydd Llun Mehefin 7fed, deuddeg ohonom i gyd, o'r Bala am Lanuwchllyn. Cyrraedd yno i frecwast gan Wendy. Ymlaen am Ddolfeili, heibio Cefngwyn a Dwrnduon a Chae Coch. Edmygu'r wal gerrig sych sydd yn cael ei adeiladu yno - mae'n braf gweld yr hen waliau yn cael eu hadnewydd a rhai newydd yn cael eu codi. Cael paned yn Dolfeili a'r haul yn danbaid. Dim ond pymtheg milltir eto i fynd yn yr haul poeth yma. Ymlaen ar hyd yr hen ffordd Rufeinig am Brithdir. Edrych ar Gader Idris a meddwl ein bod angen cerdded i ochr draw i'r gadair ond edrych i'r dde ac edmygu'r olygfa sydd yma o Rydymain - wel rydym yn byw mewn lle braf, yr holl olygfeydd godidog sydd gennym. Y llwybrau yn llawer iawn sychach y tro yma i be oedd yno y tro diwethaf y gwnaethpwyd y daith. Cyrraedd Brithdir erbyn 1 o'r gloch a Wendy yno yn ein disgwyl. Braf cael seibiant bach arall a chyfle i rai ohonom olchi ein traed! Ymlaen y tro yma am Gwanas ac yn meddwl am y gân 'Wrth fynd efo Deio i Dywyn', ond ni arhosom ni yn Gwanas. 'Does dim sôn fod Mari Jones wedi aros yn unlle a'r criw yn meddwl fod Mari Jones yn dipyn o ferch. Ymlaen am Gwm Hafod Oer a'r haul ar ei boethaf erbyn hyn - chwysu dipyn ar y daith yma. Cyrraedd pen yr allt a gweld Llyn Talyllyn yn agor allan o'n blaenau. Bendigedig! Hoi fach eto ym maes parcio Cader Idris cyn cychwyn ar y rhan olaf o'r daith. Er bod y coesau'n flinedig erbyn hyn rhaid oedd dal i fynd, heibio'r llyn ac i fyny drwy'r goedwig a llawr y goedwig fel carped o dan ein traed a'r tawelwch yn hudolus. Ar ôl tipyn o dynnu i fyny, braf oedd gweld pentref bach Abergynolwyn o'n blaenau. "Rhyw ddwy filltir eto," meddai Mary, "ac mi fyddwn wedi cyrraedd." Mae'n rhyfedd y nerth yr ydych yn ei gael wrth wybod fod y diwedd wrth law. Dod i olwg eglwys Llanfihangel y Pennant a gweld y ceir yno'n ein disgwyl yn ogystal â rhai o blant ysgol Abergynolwyn a'u rhieni a ffrindiau o Lanfihangel y Pennant. Gorffen y daith wrth gofgolofn Mari Jones gydag un gorchwyl bach ar ôl a hwnnw yn orchwyl pwysig iawn sef cyflwyno'r beibl roeddem wedi ei gario'r holl ffordd o'r Bala i Lanfihangel y Pennant i blant ysgol Abergynolwyn. Hoffwn ddiolch i Mrs Nia Evans a'r plant am aros mor hir amdanom oherwydd roeddem yn hwyr yn cyrraedd a diolch i Mary am ein harwain, Wendy am edrych ar ôl ein boliau ac i Linda, Olwen a Siân am ddod i'n nôl a'n cludo adref yn saff. Er gwaethaf y blisters roedd hwn yn ddiwrnod wnaiff aros yn y cof am byth. Diolch yn fawr iawn iawn i bawb sydd wedi ein noddi - mi rown wybod y cyfanswm gasglwyd i chwi ar ôl i ni dderbyn yr arian i gyd i mewn. Criw Coleg y Bala
|